Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

50
COFIANT
fod gyda chwithau. Y mae efe yn ffyddlon. i'w addewid, i. fod
yu" Dad i'r amddifad, ac yn farnwr i'r gweddwon.
"Ydwyf, gyfeilles anwyl,
"Yr eiddoch, mewn cydymdeimlad,
"M. A. JONES."
Y mae ger ein bron amryw o'i llythyrau wedi
eu derbyn oddiwrth gyfeillion caredig, ond y mae
yn rhaid i hwn wneyd y tro fel enghraifft o'r lleill,
rhag chwyddo y llyfr yn ormodol. Gellir dyweyd
hyn am dani, fod cyfansoddi llythyr cynwysfawr,
mewn byr eiriau, ac ieithwedd dda, mor naturiol
iddi ao anadlu, a hyny yn gyffredin heb nemawr
ragfyfyrdod, mewn ychydig fynydau. Y rheswm,
hwyrach, fod y rhyw fenywaidd yn gyffredin yn
rhagori yn y ddysgeidiaeth hon yw, eu bod yn
ysgrifenu eu teimladau yn hytrach na'u barn; tra
y mas y naill yn barod i'w ysgrifenu yn ddigwmpas,
y mae y llall yn gofyn amser i'w ffurfio a'i bender-
fynu, ac yn aml wedi'r owbl yn llawn mor debyg o
fod yn annghywir.
PEN. II.
EI NODWEDDIAD FEL ATHRAWES.
YR oedd un nodwedd werthfawr iawn yn nghyfan-
soddiad ei meddwl, sef amcan penodol yn mhob
peth a gymerai mewn llaw, a phenderfyniad diysgog
1 gyrhaedd yr amcan hwnw. Crybwyllwyd eisoes,
mewn rhan arall o'r bywgraffiad, ei bod, er yn ieuanc,
yn awyddus i fod yn athrawes; penderfynodd fod, ac
ni lwfrhaodd er methu fwy nag unwaith. Ar yr 22ain
o fis Mawrth, 1847, cychwynodd i Lundain, i Goleg
Ysgolion Brytanaidd a Thrannor, a derbyniwyd hi yn.
groesawus fel ereill i'r dosbartl: isaf; ond yn fuan