Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
53
No more may the blast of war's trumpet sound o'er thee
Be thy battle-bymas changed for the accents of mirth;
May the song of the bard ne'er have cause to deplore thee-
But peace ever smile on thee, land of my birth!
Yn mis Hydref, fel y cyfeiria y llythyr uchod,
penodwyd hi i fyned yn Athrawes i Ruthyn, Sir
Ddinbych. Dechreuodd ei gwaith gydag egni a
medrusrwydd mawr. Yr oedd ei phrydlondeb a'i
threfn, yn gystal a'i deheurwydd i gyfranu addysg,
yn dra rhagorol, ac yn wir deilwng o efelychiad.
Ond o'r cychwyn cyntaf, dangosodd amcan uwch
na chyfranu addysg fydol-gwelai ddyledswydd
fawr tu draw i hyny; mewn cyfeiriad at ba un
dywedai wrth un o'i chyfeillion wrth ymadael a'r
lle, fod ei chydwybod yn dawel, fod pob plentyn fu
tan ei gofal wedi clywed digon ganddi am drefn yr
efengyl i fod yn gadwedig, pe buasai heb glywed
gair gan neb arall. Da pe byddai teimlad o'r un
natur yn dylanwadu yn ddwfn ar feddwl pob athraw,
mewn Ysgolion dyddiol a Sabbothol.
Ionawr 30ain, 1849, symudodd o Ruthyn i gyeh-
wyn yr Ysgol Frytanaidd yn Mangor. Am chwe'
blynedd, llafuriodd yn ddiwyd yno, a chyrhaeddodd
fesur helaeth o lwyddiant, a mawr oedd y ewyno ar
ei hol pan luddiwyd iddi gan afiechyd i barhau.
Yn Rhagfyr, 1849, llwyddodd i enill certificate
oddiwrth y Llywodraeth fel Ysgolfeistres, er ei bod
ar y pryd tan anfantais fawr, wedi bod yn gorwedd
am rai wythnosau tan afiechyd trwm.
Yn ei dyddlyfr, am yr 8fed o Awst, 1850, cawn
y cofnodiad canlynol:"Diwrnod pwysig, fe'm
priodwyd heddyw; bydded i ni gael bod mewn
gwirionedd o nifer dysgyblion yr Arglwydd," &c.
Cymerodd hyn le yn Aberayron, Sir Aberteifi, yn
nhy ei hen fam dduwiol a serchog, Gweinyddwyd
y rhan grefyddol o'r gwasanaeth, gan y Parch.
Robert Owen, Rhyl, pan ar ei gyhoeddiad trwy y
Deheudir. Yr oedd yn hoff dros ben o'r gwaith o