Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

54
COFIANT
gadw Ysgol, ac un o'r arteithiau fu'n poeni fwyaf
ar ei meddwl yn nechreuad ei hafiechyd, oedd ofn
fod ei hoes fel Athrawes wedi dyfod i ben; a bu
am hir amser yn gobeithio y cryfhai i'r fath raddau
fel ag i fedru cadw Ysgol fechan yn ei thy ei hun,
os na fyddai yn ddigon cryf i gadw yr Ysgol Fryt-
anaidd. Rhoddaf yma lythyr a ysgrifenwyd gan
un o'i hen ysgolheigion, yr hon a fu am lawer o
flynyddoedd tan ei gofal, yn gyntaf fel dysgybles,
ac wedi hyny fel Is-athrawes (pupil teacher):
"Mai laf, 1858."*
"Anwyl Syr:
"Yr wyf yn cydymdeimlo â chwi yn fawr yn y golled
a gawsoch trwy farwolaeth anwyl Mrs. Edmunds. Rhaid fod
y brofedigaeth yn chwerw i chwi, pan y mae ei chyfeillion, a'i
hen ysgolheigion yn teimlo cymaint oddiwrthi.
Gallaf sicrhau
i chwi y bydd i mi feddwl am dani byth, gyda'r adgofion
mwyaf serchog, yn nghyda galar, wrth feddwl fod un oedd
wedi ymroddi mor llwyr i wneuthur daioni, wedi ei symud mor
fuan o dir y rhai byw. Fel Athrawes, ni wybum I am neb o'i
chyffelyb. Y fath ddifrifwch a phryder a ddangosai bob amser
wrth ofalu am nodweddiad moesol, ac ymddygiadau y plant yn
yr Ysgol. Pan ddeallai fod un o honynt wedi dweyd anwiredd,
y fath boen a gymerai i ddangoa i'r cyfryw, ganlyniadau yr
ymddygiad, yn y byd hwn, a'r byd a ddaw. Yr oedd yn arfer-
iad ganddi ddarllen penod o'r Beibl bob boreu yn nghlyw yr
holl Ysgol, ac wedi eglurhau yr hyn a ddarllenid, bolai ni am
ei chynwysiad. Detholai ei thestynau o hanes Cain ac Abel,
y Mab Afradlon, Ananias a Saphira, &o., &o.; ac ymdrechai
yn galed i wasgu y wers ar ein meddyliau ienainc. Yr
oedd serch y plant tuag ati yn annesgrifiadwy. Yr wyf yn
cofio yn dda pan unwaith y bu am wythnos yn glaf iawn, yn
methu dyfod atom, fod yr holl ysgol yn cydymdeimlo a bi i'r
fath raddau, fel nad oedd un gradd o anhawsdra i'n cadw yn
berffaith lonydd. Yr oedd ei phryder a'i hawyddfryd am
lwyddiant yr îs-athrawon (papil teachers), tra yr oeddent tan
ei gofal, ac wedi hyny, yn anarferol. Yr oedd yn gyfeilles
gywir iddynt, ac yn mhob amgylchiad yn barod i'w cynghori.
Nid annghofiaf byth y fath dawelwch a ddygodd ei hymddy-
ddanion eysurlawn, a'i chydymdeimlad caruaidd, i fy ysbryd
trallodedig I, pan mewn gofid mawr yn nghyloh perthynas
agos oedd mewn gwlad estronol yn glaf. Mor ddifrifol y
dymanai arnaf i ymddiried y cwbl yn llaw yr Arglwydd, gan