Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
57
PEN. IV.
Y TRAETHODAU.
AR ddymuniad ei chyfeillion, cydsyniodd i ddanfon
y Traethodau at wasanaeth Golygydd y Drysorfa;
ond ar ol ei hymadawiad, tueddwyd ni yn hytrach
i'w hargraffu yn y bywgraffiad; ac fel rhagdraeth
i'r cyfryw, rhoddwn yma y llythyr canlynol o eiddo
y Golygydd:

    • Mold, Mehefin 17, 1858."

"Anwyl gyfaill:
"Drwg genyf fod mor hir fel hyn heb anfon yn
ol i chwi draethodau eich diweddar anwyl gymhares. Yr
oeddwn yn llwyr feddwl eu cyhoeddi yn y Drysorfa, ond gan
eich bod am gyhoeddi Cofiant, mewn un llyfryn, o'ch diweddar
deilwng wraig, gwell fydd eu cyhoeddi yno.
"Yr oedd Mrs. Edmunds yn wir yn haeddol o'r cofnodiad.
mwyaf parchus a chyhoeddus yn mysg ei chenedl. Yr oedd ei
chrefydd yn un amlwg a diffuant, ei meddwl yn ddysglaer, ei
ohwaeth yn goethedig, a'i defnyddioldeb yn ei chylch yn fawr
ac eang. Cyrhaeddodd radd dda "mam yn Israel; ac yr
oedd yn ei rhinweddau a'i hymarferiadau daionus, yn gynllun
i'w bystlen yn gyffredinol. Y nos Sabboth y cefais y fraint o
sefyll wrth ei gwely angeu, sydd adeg nas gallaf ya hawdd ei
hannghofio. Datganai el gobaith diysgog yn
Nuw mewn
Cyfryngwr, ac edrychai yn ngwyneb angeu gyda "thangnefedd
gan gredu" nes yr oeddwn yn edrych ar ei hystafell fel daear
sanctaidd.
Gan ddymuno nawdd a bendith y Duw Hollddigonol
arnoch chwi a'ch rhai bach,
Ydwyf, anwyl gyfaill,
"Yr eiddoch yn ddiffuant,
"ROGER EDWARDS."
"Mr. Edmunds."
MAM
RINWEDDOL.
(Traethawd buddugol.)
Os ydwyf yn deall fy nhestyn yn iawn, yr ydwyf i ddesgrifio