Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

58
COFIANT
"mam rinweddol"-i dynu ardeb o houi-fel y gallo pawb a
edrycho arni, ei hoff, ac ymdrechu ei hefelyohu. Ond pwy a
gaf i eistedd am y llun? Pa le y caf un ddigon rhinweddol ?
Olywsom lawer am Nonna, mam yr enwog Gregory Nazianzen
-Anthusa, mam Chrysostom-ac yn enwedig am Monica,
mam Awstin; pa rai oedd enwog am eu duwioldeb, eu ffydd,
a'u gweddiau dros eu plant. Ond awn yn hytrach "at y gair
ao at y dystiolaeth," canys yno y ceir prydferthion nad ydynt
i'w cael mewn un man arall; ac oddiyno y cymerodd y rhai
a Boniasom o'r blaen eu cynllun.
66
Wrth sylwi ar y Gyfrol Sanctaidd, gwelwn bod yn rhaid i
"fam rinweddol" fod fel Hannah, mam Samuel, yn gweddio
dros ei phlentyn cyn ei ddyfod i'r byd. "Am y bachgen hwn
y gweddiais;" ao hefyd yn ei gyflwyno ef i'r Arglwydd, (trwy
fedydd) Minau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd; yr holl
ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i'r Arglwydd.".
Nid oes neb ond mam dduwiol a wne hyn yn iawn. Y mae
Duw yn dywedyd wrth bob mam, "Mag ef i mi, a minau
a roddaf i ti dy gyflog;" ac, yn wir, nid eyflog bychan yw
cael y peth bach tlwe i'w ymgeleddu, a chael yr anrhydedd o
feithrin ei enaid anfarwol.
Fel Jochebed, mam Moses, dylai wneyd y cwbl a all i'w
ddyogelu yn ei febyd rhag peryglon babandod,-
"Pob corsen of gawell a gweddi gydblethodd;"
7,
felly y "fam rinweddol," dylai ofalu am fwydydd maethlon,
dillad clydion, ond yn benaf, ar fod yr enaid bychan sydd wedi
ei lapio yn y dillad yn cael ei ymgeleddu; ae ar y gorchwyl
hwn, nis gall ddechreu yn rhy gynar. Y mae y plentyn yn
dysgu ei wers gyntaf yn hir oyn y meddylia y fam ei rhoddi
iddo; ffurfia feddyl-ddrychau yn mhell cyn y medr ffurfio
geiriau. Sylwa ar ŵg a gwên y fam, ac edrycha yn ddifrifot
ar y cyntaf, ac yn ddifyr pan wel yr olaf.
Pan ddechreus y plentyn dòri geiriau, y mae pryder y "fam
rinweddol" yn dwysâu rhag iddo glywed iaith anweddaidd,
canys gwyr mor dueddol ydyw plentyn i fabwysiadu pob gair
a glywo-nid oes modd i gau ei glustiau a'i lygaid rhag clywed
a gweled drwg; ond ymdrecha ddysgu iddo "eiriau gwirionedd
a sobrwydd," llanw ei gof ag adnodau o'r Beibl, a gosoda o'i
flaen gymeriadau "plant de y Beibl," fel y dysgo eu hoffi. Y mae
y Gair Dwyfol wedi ei fritho â'r cyfryw; ac nid oes un plentyn
a glyw yn ddigyffro hanes Abel, Moses, Joseph, Dafydd,
Daniel, y tri llano, &o., yn yr Hen Destament, a hanes Iesu
Grist, Ioan, Timotheus, &o., yn y Newydd. Hefyd, os clywch
bwynt yn son pan o dair i chwech oed, am fyned yn "gen-
adon," yn debyg i Williams, Moffat, neu Livingstone; ac
yn eu chwareuyddiaethau yn efelyohu cyfarfodydd gweddio,