Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

62
COFIANT
amgylch-osodiad aur, neu wisgiad dillad; eithr bydded cudd-
iedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a
llonydd, yr hwn aydd ger bron Duw yn werthfawr." Er mor
hardd ydyw y rhinwedd hwn, nid peth hardd ydyw ei ffugio.
Pan ofynir i ambell un ddyweyd neu wneyd unrhyw beth,
megys oanu, neu chwareu cerddoriaeth, &c., I foddio ei chym.
deithion, ateba yn y modd mwyaf pendant na wna, ao nas
gall feddwl am wneyd y fath beth; oud siomir hi yn fawr os
cymerir hi ar ei gair. Muraendod yw hyn, a ffug-wyleidd-dra.
3. Ymddyddanion gwylaidd. Tan y pen hwn eto, hawddach
yw dangos y troseddau yn erbyn gwyleidd-dra, na'r rhinwedd
ei hun. Nid gwyleidd-dra ydyw cymeryd y blaen mewn siarad,
os bydd yno rai yn bŷn, neu yn fwy profiadol-na fyddwn y
cyntaf yn siarad, na'r hwyaf ein haraeth. Os gofynir ein barn
ar ryw bwnc, atebwn mewn ychydig eiriau, ac at y pwrpas.
Ond os bydd cyfaill yn cael cam yn ei absenoldeb, amddiffynwn
ef, er i hyny dynu pob llygaid yn y fan arnom. Os bydd rhyw
un yo ddigon hyf i wneyd gwawd o grefydd neu grefyddwyr
yn ein clyw, cofiwn mai ein dyledswydd y pryd hyny yw ei
argyhoeddi a'i geryddu yn llym. Pe clywem, hyd yn nod un
o ddylanwad uchel ya esgusodi beiau y boneddigion, neu yn
rhoddi enwau tyner ar bechodau, na fyddwn yn rhy wylaidd i
siarad yn hyf o blaid y gwirionedd. Y tafod, medd un awdwr,
ydyw eleddyf merch; ac yn mha achos y gellir ei arferyd yn
fwy anrhydeddus nag mewn amddiffyn y gwirionedd, ac agor
ein genau dros y mud? Ceir clywed bechgyn ieuaine, weithiau,
yn ymffrostio o'u hymddygiadau gwael ac anfoneddigaidd tuag
at un o'r rhyw arall. Y mae gwyleidd-dra yn peri i ni edrych
arno gydag anfoddlonrwydd, a gwgu arno, nes gwneyd iddo
deimlo ei iselder ei hun a'n purdeb mbesol ninau; tybiwyf
mai dyma y ddraen sydd i'n dyogela, a phe arferid y cyfryw
yn amlach, byddai ein cymeriad yn llawer uwch yn ngolwg y
rhyw arall. Mor briodol oedd penderfyniad yr enwog Hannah
More, yr hon a ddywed wrthym, iddi unwaith gael derbyniad
croesawus mewn teulu o urddas, ond iddi benderfynu nad â'i
yno byth rhagliaw, pan welodd y derbyniad a'r sirioldeb a
ddangosai merched ieuainc y teulu hwnw tuag at wr ieuanc
oedd wedi troseddu yn erbyn rhinwedd a phurdeb moesol
pechodau, y rhai a fussent yn cael eu hystyried y mwyaf
gwarthus yn y rhyw arall, ac yn ddigon o reswm i'w hwtio o
blith cymdeithas. Gwyleidd-dra ynom ni ydyw dangos na
ddylai y pethau hyn fod felly. Nis gallwn roddi ein dylanwad
o blaid dim sydd yn well nag o blaid rhinwedd, ac yn erbyn
pob peth o duedd wahanol.
Hefyd, yn eich cymdeithas a'ch gilydd, meithrinwch deimlad
o wyleidd-dra trwy beidio arfer geiriau a dueddant at ymad-
rodd ffol, gwag, a masw; gan ymwrthod hefyd a'r pynciau sydd