Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS,
83
yn arwain i'r cyfryw; gallwch fod yn rhydd se yn siriol, heb
fod yn ffuantos a rhodresgar; gallwch arfer eich arabedd, ond
nid ar draul eich gwyleidd-dra, na chwaith ar draul oymeriadau:
eich cymydogion. "Fel dyn gwallgofus a dafio bentewynion
tân, saethau, ao arfau marwolaeth," yw yr hwn, neu yr hon, a
enllibio ei gymydog, ao a ddywed, "Onid cellwair ydwyf?"
Famau, a ydych chwi yn ddfeuog yn hyn? Edrychwch pa
beth, a pha fodd, y siaradwoh o flaen eich plant; gwrandawyr
astud iawn ydynt hwy, ie, pan na byddoch chwi yn meddwl
eu bod yn eich clywed; a gwelir argraff eich siarad arnynt yn
bur fuan.
Yn eich cyfeillachau rhagbarotdawl, na oddefwch na gair
nag yetum a fyddo yn tueddu at anfoesgarwch. Gofelwch fod
eich cyfeillaohau mewn lleoedd, a chyda phersonau, priodol;
gadawaf i'ch cydwybodau farnu, yn ol rheol Gair Duw, pa rai
ydynt. Os bernwoh yn addas wrthod cynygiad dyn ieuanc,
na ddywedwch hyny wrth eich cyfeillesau; y mae hyn yn
ymddygiad a gondemnir gan bob merch o iawn deimlad, so er
ei fod yn beth tra chyffredin, y mae yn ddiffyg mawr o wyleidd-
dra; dylech, yn hytrach, feddwl yn barchus am y cyfryw,
gan iddo ddangos y parch mwyaf i chwi trwy eich gwneyd yn
wrthddrych ei ddewisiad. Diffyg gwyleidd-dra eto, ydyw
cyfeillacha à mwy nag un ar yr un amser. Ystryw rhai
merched yw cadw mwy nag un llinyn ar y bwa, fel y dy-
wedant. Dangosant wrth hyn, nad oes ganddynt fawr o fri
arnynt eu hunain, na nemawr o ymddiried yn yr ymgeiswyr
am eu ffafr. Y cymeriad atgasaf mewn bodolaeth ydyw y
peth a ellw y Sais yn Airt. Bum yn edrych y Geiriaduron am
gair Cymraeg, a chefais y geiriau gwrthun a ganlyn,
Ffiloges, gwillf, mursogen, coegen dwyllodras, penhoeden,"
&c. Gobeithio y gwna yr enwau annghynes byn i'r cyfryw
fieiddio a newid eu hymddygiadau.
Yn ddiweddaf, pan y bydd i ddyn ieuanc o ymddiried &
rhinwedd ofyn am eich serch, cofiwch nad gwyleidd-dra gwir-
ioneddol ydyw ei ateb yn hollol wahanol i'r hyn fyddwch yu
deimlo; bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn page, yn y
mater hwn. Ac mewn atebiad i bersonau fyddont yn awyddus
i wybod eich cyfrinach, gwyddoch yn hawdd pa fodd i ysgoi
gofyniadau o'r fath; ond cofiwch nad oes ar wyleidd-dra eisieu
cymorth anwiredd, nag oes, na thwyll yohwaith, trwy ddifrio
gwrthddrych eu serch, fel y gwna rhai. Gellid helaethu yn
hawdd ar hyn, ond gweddus ydyw i minau goflo nad gwyl-
eidd-dra ydyw myned yn rhy faith, a throseddu y rheolau a
wnaed gan fy noethach I; gan byny, terfynaf hyn o ysgrif yn
"ngeiriau gwirionedd a sobrwydd." Yn ddiweddaf, fy chwior-
ydd, "pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest,
pa bethau bynag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur,