Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

84
COFIANT
pa bethan bynag sydd hawddgar, pa bethan bynag sydd gen-
moladwy, od oes un rhinwedd, so od oes dim clod, meddyliwch
am y pethau byn."
BUGEILES GLAN MENAI.
Cya terfynu ein nodiadau am dani a'i hysgrifau,
tybiwn nad anfuddiol fyddai coffhau fod un peth
ynddi yn annhebyg i lawer o'i chwiorydd crefyddol;
sef na wnaeth y cyfnewidiad i'r sefyllfa briodasol,
lareiddio dim ar ei hawydd i fod yn ddefnyddiol
yn yr Ysgol Sabbotbol nac yn y cylchoedd ereill y
medrai fod yn ddefnyddiol ynddynt. Yr oedd "I
should be glad to be useful" fel wedi ei gerfio ar ei
chalon. Dywedai ein parchus ddiacon ymadawedig
(y Capt. H. Owen) am dani, nad oedd efe yn gwybod
pa faint o ddaioni a wnai pe bai ganddi gorff digon
cryf. Nid gormodiaeth mewn un gradd fyddai
dyweyd ei bod yn fyw i bob peth da, Cymdeithas
Ddirwestol, Cymdeithas Dorcas, Cyfarfodydd Canu,
Band of Hope, Cystadleuaeth Ysgolion Sabbothol,
&c., a gaent oll ynddi hi gyfeilles ffyddlon. Gwnai
yr olla allai er cynorthwyo y naill a'r llall, a
theimlai ddyddordeb mawr yn eu llwyddiant. Bu
am y rhan fwyaf o'i hoes yn ysgrifenydd i'r naill
a'r llall o honynt, yn y gyfran a berthynai i'r
merched; ac hyd yn nod yn ei chystudd a'i gwen-
did olaf, yr oedd yn llawn mor awyddus ag erioed
am eu llwyddiant.
Oddiwrth y traethawd a ganlyn, canfyddir y
medrai hebgor tipyn o amser wrth fagu, i gefnogi
amcan da a osodwyd ar droed yn Ysgol Sabbothol
Bangor, yn y flwyddyn 1853, i'r dyben o godi
meibion a merched yr Ysgol, i ddechreu ysgrifenu
eu meddyliau. O herwydd rhyw amgylehiadau,
nis danfonodd ef i'r gystadleuaeth. Nid ydyw
ond byr, ond y mae yn dra ysgrythyrol: