Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

65
MBS. EDMUNDS.
Y BERTHYNAS SYDD RHWNG LLAFUR A
LLWYDDIANT.
"YN mhob llafur y mae elw," medd Solomon "Enaid
diwyd a wneir yn fras." "Llaw y diesgeulus a deyrnasa. "Y
neb a lafurio ei dir a gaiff ddigon o fara." Iawo y gwyddai
y gr doeth y gwirionedd hwn,-" nas gellir disgwyl am
Iwyddiant heb lafur." Cydnabyddir yr egwyddor hon yn mhob
cea, a gweithredir arni gan bawb gyda golwg ar bethau
tymorol. Y mae yr arddwr yn aredig, y marchnatwr yn
marchnata, y milwr yn ymladd, a'r bardd yn canu; hwynthwy
yn wir am bethau daearol; ond gan fod llwyddiant crefyddol
o uwch natur, dylai ein llafur gyda phethau crefyddol fod yn
gyfatebol, yn fwy.
Y chwareuyddion ar fynydd Olympus gynt, Ol fel yr oeddent
yn ymorchestu am goron o ddail; y milwr Rhufeinig, fel yr
oedd yn ymladd er mwyn enill teyrnas i'w dywysog. Y mae
teyrnas a choron yn nodi ninau, a'r rhai hyny yn anniflanadwy.
Y mae cwmwl o dystion yn britho'r Ysgrythyrau, ac yn dangos
yn eglur nas gallwn ddisgwyl am lwyddiant heb lafur.
Trwy ymdrechu y cafodd Jacob y fendith-Josus a'r
iaid a ennillasant wlad Canaan. Sicrhawyd Dafydd yn y
freniniaeth wedi iddo ddarostwng twr y Jebusiaid. Trwy
weithio a brwydro ar unwaith, y gorphenodd yr Iuddewon yr
ail Deml, er gwaethaf Tobiah a. Sanbalat. Dan y Testament
Newydd eto, trwy lafur a lludded, nos a dydd, y llanwodd yr
Apostolion boll Asia à gair Duw. Dylynodd y Cristionogion
cyntaf ol eu traed yn wyneb holl erledigaethau yr Ymerawdwyr
Rhufeinig, dyoddefasant hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn
pechod, a choronwyd cu llafur à llwyddiant mawr, "hyd nes
oedd gwaed y suint fel had i'r eglwys.*
Os deuwn yn nes at ein cyfnod. ni, edrychwn ar y diwygwyr
Protestanaidd,-Luther, Calvin, Zuinglius, Knox, &c., pa
faint o lafur yr oeddent yn myned trwyddo. Y mae effaith eu
llafur yn parhau byd y dydd hwn. Oв gwnawn aon eto am
Gymru a'i Diwygwyr, cawn Howell Harris, Rowlands Llan-
geitho, Jones Llungan, a Charles o'r Bila. Iawn y gwelwo
eu llafur wrth edrych ar agwedd ein gwlad y dyddiau yma, a'l
chydmaru a'r hanes sydd genym am dani gan mlynedd yn ol.
Nid trwy gysgu y gwnaed y cyfnewidiad dedwydd, ond trwy
hir ymdrech a llafur diflino. Ond y mae genym uwch esiampl
i'w gosod o'n blaen na'r rhai a enwyd, sef Iesu, yr hwn a ddy-
oddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel
y gwelai o lafur ei enaid, ac y cai ei ddiwallu.
Er ein calonogi i fyned yn mlaen mewn llafur, ystyriwn y
sicrwydd sydd geuym o lwyddiant.