Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

66
COFIANT
46
"Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti a'i cei ar ol
llawer o ddyddiau." Canys yn ei iawn bryd y medun, oni
ddiffygiwn."
"Am hyny, fy mrodyr anwyl, byddwch sier a diymmod, a
helaethion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a chwi yn
gwybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd."
PUM MUNUD WRTH VAGU.
PEN. V.
EI CHYSTUDD.
"Llwybr cwbl groes i natur, yw fy llafur yn y byd,
Etto gwauf ei deithio'n dawel, ond im' gael dy wyneb-pryd;
Codi'r groes a'i chyfri'n goron, mewn gorthrymder llawen fyw,
Ffordd unionaf, er mor arw, i ddinas gyfaneddol yw."-A. G.
YR oedd llawer o bethau hynod a rhagorol yn
mywyd fy anwyl wraig ymadawedig cyn i mi erioed
ddyfod yn adnabyddus o honi, ac ni bu yr hynodion
hyny ddim yn llai mewn un modd, yn ystod y deng
mlynedd y cefais I y fraint o fod yn ei chymdeithas;
ond credaf mai y pedair blynedd olaf o'i hoes oedd
y rhai mwyaf dyddorol, ac yn enwedig felly pan
olrheiniwn oruchwyliaethau yr Arglwydd tuag ati,
er mwyn gorphen y gwaith da, a'i pharotoi i ogon-
iant. Hynod mor ddesgrifiadol o honi, ar yr adeg
hon o'i bywyd, y canodd Anne Griffiths y penill
uchod. Nid ydyw yr Arglwydd yn cyrchu neb o'i
blant adref, heb yn gyntaf ryddhau eu serchiadau
oddiwrth y pethau a welir. Amrywiol iawn yw y
moddion a arfera tuag at ddwyn y gwaith hwn i
ben-weithiau profedigaethau llymion, pryd arall
hir gystudd, ac yn aml peri malldod a gwywdod ar
eu teganau mwyaf anwyl, neu groesi yn hollol eu
tueddiadau cryfaf; ond "y mae ganddo ef lawer o'r
fath bethau," y rhai bob amser sydd yn cyraedd