Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

68
COFIANT
gan ddywedyd "Pe bawn ond cael myned i'r
capel byddwn yn hollol dawel i beidio myned i un
man arall." Yn mhen amser wedi hyny, nis gallasai
fyned hyd yn nod i dy Dduw heb gymhorth ereill,
ac er fod hyn eto iddi hi oedd o deimlad mer anni-
bynol, yn llwybr cwbl groes i natur," buan y
dysgodd ymostwng i'r naill beth a'r llall, a hyny
gyda sirioldeb mawr. Yn mhlith ei hamrywiol
gynlluniau ar ei chlaf-wely penderfynodd, wedi iddi
wella (canys hi a gredai yn gryf ei bod i wella)
gasglu nifer o wragedd na byddent yn arfer dyfod
fr Ysgol Sabbothol, y rhai y gwyddai eu bod yn
sefyll mewn angen am wybodaeth ysgrythyrol, i
ffurfio dosparth o honynt allan o swn yr ysgol, yn
yr ysgoldy.
Yn ei dyddlyfr am Ionawr 11eg, 1857, cawn y
cofnodiad a ganlyn :-"Penderfynwyf ffurfio dos-
parth yn yr Ysgol Sabbothol ar gynllun gwahanol,
gan obeithio y bydd yn foddion i wneyd ychwaneg
o ddaioni." Cafodd y fraint o ddechreu, a chasgl-
odd amryw o'r cyfryw bersonau yn nghyd, a mawr
y pleser a deimlai yn y gwaith; ond cafodd allan
yn mhen ychydig o Sabbothau ei bod eto heb
ddysgu y wers-"os yr Arglwydd a'i myn." Gorfa
arni adael y dosparth a myned yn ei hol i'r hen
ystafell am fisoedd i orwedd ar ei chlaf-wely; ond
eto teimlai yn dra awyddus am fyw ac am wellhau.
Llwyddodd y meddyg medrus ar ei rhan y tro hwn
eto, a bu am rai misoedd, trwy gymhorth ereill, yn
rhodio oddiamgylch. Cymerodd bleser mawr yn
ystod y seibiant hwn i hyfforddi dosparth o ferched
ieuaínc tra gobeithiol. Mawr y serch a deimlai
tuag atynt, ac a deimlent hwy tuag ati hithau;
byddai yn ddiwyd iawn yn eu hyfforddi ac yn eu
cynghori, a phan y byddai, o herwydd afiechyd, yn
methu myned atynt, mawr fyddai ei helynt am
sicrhau athraw cymwys iddynt yn ei habsenoldeb,
ac wedi iddi lwyddo, dywedai na wyddai neb o