Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

70
COFIANT
Yr ydym yn credu fod y goleuni mawr a gododd
ar ei meddwl yn niwedd ei hoes, yn ddigon i'n
cyfiawnhau am olrhain yn lled fanwl sefyllfa ei
phrofiad crefyddol pan yn hau mewn dagrau, yn
rhagarweiniol i'r cynhauaf mawr o orfoledd a gafodd
gasglu yn niwedd goruchwyliaethau yr Arglwydd
tuag ati. Cawn ynddi yn llythyrenol Daith y
Pererin wedi ei sylweddoli-cors anobaith, dyffryn
gostyngeiddrwydd-ty y dehonglydd y mynydd-
oedd hyfrydlawn-colli y baich yn ngolwg y groes
myned i lawr i dir Beulah, ac o'r diwedd gyraedd
yn ddyogel trwy yr afon i'r Jerusalem uchod, wedi
dyfod yn ffeithiau gwirioneddol nas gellir en
hameu. Tra yr oedd yn mawr werthfawrogi gwir-
ionedd a chywirdeb yn mhawb a phob peth, yr
oedd yn dra gwrthwynebol i bob ffug a rhagrith, a
phob peth yn ymylu arnynt. Dywedai ei bod ar
un adeg o'i hoes, wrth weled proffes o brofiad uchel
a theimladau cynhyrfus yn gysylltiedig â buchedd
annghyson a bywyd diffrwyth, wedi myned i amheu,
os nid i ddiystyru, teimladau o gwbl, a'i bod yn
credu fod yr Arglwydd o'r herwydd, wedi ei gadael
yn ngafael caledwch teimlad, yr hyn a barodd iddi
am hir amser fod yn amheus iawn am wirionedd ei
chrefydd. Credai ei bod yn hyny yn euog o ryfyg
mawr, ond ei bod erbyn hyn wedi ei llwyr argy-
hoeddi mai peth yn y teimlad yw crefydd-yr hyn
y mae y galon yn brofi, ac nid yr hyn y mae y pen
yn ei ddeall. Ar ryw ystyr y mae yn ofidus
adgofio pa faint o ing a blinder a ddyoddefodd yn
ei meddwl, yn ngafael amheuaeth ac annghrediniaeth
cryf, am yspaid maith. Yr oedd wedi myned y
drws nesaf i anobaith. Dywedai ei bod wedi cael
allan i sicrwydd nad oedd ei chrefydd o'r iawn ryw.
Gwnai gydwybod o fod yn fanwl yn yr arferiad o
bob moddion o drefniad Duw i oleuo y meddwl,
ond nid oedd "gweledigaeth eglur yn y dyddiau
hyny" Darllenai lawer yn ngair yr Arglwydd,