Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
71
ond nid oedd yn cael na blas nac ymgeledd
trwyddo; wylai, gweddiai, a siaradai lawer d'i
chyfeillion am ansawdd dorcalonus ei meddwl, ond
tywyllwch nosawl oedd yn parhau o hyd. Pan
ofynid iddi, paham na byddai hi oedd yn berchen
gwybodaeth a chymwysder, yn dyweyd ei phrofiad
yn amlach yn y gymdeithas eglwysig-atebai ei
bod yn hollol barod i wneyd, ond ei bod yn credu
na byddai clywed ei phrofiad hi yn gymhorth i neb;
"canys," meddai, "os dywedaf fi ddim, mi ddy-
wedaf yn hollol fel yr wyf yn teimlo; mi ddywedaf
fy mod yn gwbl sicr nad oes genyf grefydd dda."
"Y mae yn debyg iawn hefyd," meddai, "y byddai
y cyfeillion yn garedig yn ceisio fy nghysuro, yr
hyn ni fyddai o un llesad i mi. Nid yw barn neb
arall am danaf ond o ychydig bwys i mi; rhaid
cael tystiolaeth fy mynwes fy hun o'm plaid, cyn y
bydd o un cysur." Dywedai wrth yr ysgrifenydd
ei bod ymron wedi penderfynu dyfod i'r cyfarfod
eglwysig i ddyweyd wrth yr eglwys nad oedd yn
gymwys i fod yn eu plith yn hwy. Yr oedd
teimlad o'r fath yma mewn un oedd yn berchen
meddwl mor fywiog, a theimladau mor gryfion a'r
eiddo hi, a hyny pan yn ngafael afiechyd oedd
yn debyg o ddiweddu yn yr angeu, yn deimlad
torcalonus iawn. Byddai yn dywedyd weithiau ei
bod yn credu fod ei diwedd yn nesau, ond nad oedd
hyny ynddo ei hun yn ei gwneyd yn fwy deffrous,
nac yn fwy difrifol wrth orsedd gras i ymofyn am
y gwir. Rhaid i Dduw fendithio yr amgylchiad,
meddai, cyn yr etyb y dyben hwn. Onid yw tyst-
iolaeth fel hon, yn rhybudd dwys i'r rhai hyny
sydd yn gobeithio llawer oddiwrth ddeffroad gwely
angeu. Yn debyg i hyn y gwelwn rai hen bobl,
sydd yn berffaith wybyddus nad allant fyw ond
ychydig iawn o amser yn hwy, yn teimlo dim mwy,
os cymaint, wrth nesu at frenin y dychryniadau na
phan oeddent yn ieuainc ac yn iach. "Ni chred-