Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
75
oedd ynddi un duedd i esgeuluso moddion gras, ond
ymdrechai yn aml dros ben ei gallu i fod yn bresenol,
a hyny nid yn unig ar y Sabboth, ac yn y cyfarfod
eglwysig pan y byddai gweinidog enwog yno, ond
hefyd yn y cyfarfod gweddi, a'r society, ar noswaith
arw; a phan na fedrai fyned ei hun, gofalai am i
gynifer o'r teulu ag oedd yn bosibl i fod yn bresenol.
Mewn gair, teimlai zêl dros bob ymgynulliad crefydd-
ol, pa un bynag ai mawr ai bychan-yr unig gynull-
iad oedd yn ei annghymeradwyo, oedd committees
hwyrol a fyddai yn dyrysu yr addoliad teuluaidd.
Mae yn wir nad ydyw y pethau hyn ond pethau
bychain, ond mor wir a hyny, pethau bychain
crefydd ydynt, a rhai o'r pethau fydd, hwyrach, yn
cael eu harddangos yn y dydd hwnw, fel ffrwythau
crefydd dda; a'r diffyg o honynt fel diffyg o'r
cyfryw. Gellir nodi hefyd y byddai yn aml yn
dyweyd, hyd yn nod pan yn "Basan a dyfnder y
môr," ei bod yn teimlo parch mawr i Dduw fel
Duw sanctaidd; fod purdeb y ddeddf yn hollol
wrth ei bodd, a phe buasai y Duw mawr yn dyfod
un gradd yn llai pur, y collai hi y parch oedd yn
ei meddwl iddo-na ddymunai fod y ddeddf yn llai
pur er ei bod yn ei chondemnio hi; "a phe cawswn
awdurdod," meddai, "i ostwng y ddeddfi gyfarfod â
fy anmherffeithrwydd I nes fy esgusodi, dewiswn
yn ddibetrus i ddeddf bur Duw fod fel y mae, er ei
bod yn fy nghondemnio I, ac ymddiried y canlyn-
iadau i Dduw." Er nad oedd ei dau fachgen ond
ieuanc iawn, eto dangosai y pryder mwyaf am eu
magu i'r Arglwydd. Llafuriai yn ddibaid i oleuo
eu meddyliau a thyneru eu cydwybodau. Nid peth
anghyffredin mewn un modd oedd ei gweled hi a'r
bychan hynaf, pedair oed, y ddau yn foddfa o
ddagrau wrth fyned dros hanesion y Beibl. Yn ei
thraethawd ar "Y Fam Rinweddol" (tu dal. 57) y
ceir ei theimladau yn gywir ar ddyledswyddau
mam-yr oedd y pwnc wedi gwreiddio mor ddwfn