Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

76
COFIANT
yn ei chalon, fel y dywedai wrthym yn nyfnder
poenau angeu, ei bod yn teimlo hiraeth am gael
rhoddi un wers iddynt eto. Fel hyn, rhaid addef,
er fod ei meddwl wedi ei selio tan gloion annghred-
iniaeth, nad oedd penwyni wedi difwyno ei hyspryd.
PEN. VIII.
CYDWYBODOLRWYDD CREFYDDOL.
"Chwychwi yw halen y ddaear, o diflasodd yr halen à pha
beth yr helltir ef?
"Addurna'm henaid & dy ddelw,
Gwna fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, a chnawdolrwydd ;
Wrth fy ngweled yma a thraw..
0 am gymdeithasu â'r enw,
Enaint tywalltedig yw,
'N balltu'r byd gan berarogli,
O hawddgar ddoniau Crist fy Nuw."-A. G.
NID anfuddiol, o bosibl, fyddai coffau ei bod yn
ystod y tymor caled hwn, yn tueddu i fod yn
gyfyng ei barn am y proffeswyr hyny oedd yn
tueddu i fod yn anwastad yn eu ffyrdd, ac yn
enwedig teimlai yn flin wrth y rhai oedd yn segur
a diffrwyth gydag achos yr Arglwydd. Wrth
glywed am bersonau yn cael eu goddef yn aelodau
eglwysig, a hwythau wedi syrthio, neu yn byw
mewn pechodau; teimlai i'r fath raddau nes
effeithio yn drwm ar ei hiechyd. Nid hawdd des-
grifio y siomedigaeth a gafodd wrth glywed brawd
crefyddol yn "dymuno llawenydd" i un oedd wedi
tynu gwarth ar ei grefydd yn ei briodas. Credai
fod y terfyn rhwng byd ac eglwys wedi agos ei
dynu i lawr. Yr oedd yn gryf o'r farn y dylem
ymddwyn tuag at un wedi syrthio i bechod gwarth-