Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhain i ddau a phedwar bar, ond ceir eithriadau, e.e., y brawddegau byrion tribar yn Scherzo Beethoven, yn ei Nawfed Symffon, neu rai seithbar yn Nhrydedd Act Meistersingers Wagner. Gall motif fod yn fyrrach fyth. Math ar label cerddorol yw motif, yn crynhoi, yn nwylo meistr fel Wagner, caritor rhyw berson neu sylwedd rhyw feddwl. Enghraifft dda ohono, er ei bod yn un sathredig, ydyw tri nodyn agoriadol Preliwd Rachmaninoff yn C siarp minor. Hyfryted ydyw cyfarfod â'r rhain, dro a thro, ar hyd y darn! Y mae'n syndod gymaint o feddwl a fedr y meistri ei wasgu'i gylch bach. Meddylier am ddyfeisgarwch Beethoven! Oni roddodd bymtheg cynnig o leiaf, ar bedwar bar olaf ei Bedwarawd yn C minor? Ac er ei fod yn rhagweled pob gwaith a luniodd o'i ddechrau i'w ddiwedd cyn cychwyn, eto y mae ei lyfr nodiadau yn llawn o gynigion ar farrau i'w rhoi yma a thraw.

Y ffurf fwyaf cyffredin mewn cerddoriaeth ydyw'r ffurf deirran, er mai dau osodiad a fynegir ynddi, fel yn y ffurf ddwyran, sy'n ysgymun gan y rhan fwyaf o gerddorion diweddar am ei bod yn cyfyngu datblygiad, er gwaethaf gorchestion fel 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech,' y 'Londonderry Air,' rhai o '48' Bach, a 'Harmonious Blacksmith' Handel. Hyd yn oed yn ei ffurfiau symlaf, fel y miniwet a'r trio, pery'r ffurf deirran fyth yn ystwyth a hoyw, a datblygwyd llawer iawn ar y syniad sy'n gorwedd oddi tani. Ceir tipyn o hyd, yn gyffredin, yn yr enghreifftiau cynharaf ohoni; yr oedd yn rhan o'i natur. Pan ddaethpwyd i ddefnyddio offerynnau, nid fel cyfeil-