Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hosibl, oedd dofi'r ieuengaf. Unwaith beirniadai cyfaill ef am ddefnyddio pumedau dilynol, gan fwrw bras—olwg ar arfer y Meistri, ond nid oedd dim yn tycio, ac o'r diwedd dywedodd Beethoven yn swta a chroesYr wyf fi'n dweud eu bod yn gywir.' Nid oedd ryfedd i Haydn ei alw yn 'Fogwl mawr—yr oedd mor annibynnol a chyfiawn! Eto, onid oedd yn hawdd i'w argyhoeddi, medrai ei feirniadu ef ei hun yn llym, ac er mor afrywiog oedd ei dymer, llwyddodd yn fuan i ennill cyfeillion. Yr oedd eisoes wedi cyfansoddi nifer o weithiau bychain, ond ei glod fel chwaraewr oedd amlycaf yr adeg hon, hyd yn oed yng ngolwg Haydn ei hun. Gyda thro'r ganrif, daeth un o drallodion mwyaf ei fywyd drosto. 'Truenus,' meddai, 'yw fy mywyd; ers dwy flynedd yr wyf yn gorfod ffoi o bob cwmni, am na fedraf fy nwyn fy hun i ddweud wrthynt, Yr wyf wedi colli fy nghlyw.' Trist yw darllen ei ewyllys; rhed digalondid a siomiant trwyddi. Onid y tristaf o bob tristwch ydyw gweled cerddor, yn wyth ar hugain oed, yn methu â chlywed cân y bugail, a chân aderyn? Er hynny, ni thorrodd ei galon. Daeth ysbryd dyfnach a mwy angerddol nag o'r blaen i'w waith, a daeth yn anhraethol fwy personol. Erbyn 1808, yr oedd wedi ymfodloni i'w dynged, a deisyfiad cerddorol o'i ewyllys yn goresgyn ei drallodion, yn ôl pob tebyg, ydyw'r Bumed Symffon. Ymhyfrydai yn nhlysni natur o hyd, a chronnir ei hyfrydwch yn ei Symffon Fugeiliol. Nid oedd ball ar ei ddychymyg a'i ddyfeisgarwch, a'r tymor 1804-14 oedd tymor ffrwythlonaf