Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyrchafwyd y dyn cyffredin uwchlaw popeth; golygai 'rhyddid' ryddid i bob dyn i'w ddatblygu ei hun; golygai cydraddoldeb' roddi i bob dyn yr un siawns mewn bywyd â'i gilydd, golygai 'brawdgarwch' fod dynion o bob gwlad yn frodyr i'w gilydd. Pan ddysgwyd bod pob dyn yn gydradd'—as all pennies are equal, because the only value they have is that they bear the image of the King'—cododd awydd i ddisgrifio pob teimlad dynol. Ceir bron pob teimlad a gyffyrddo dyn llawenydd, tristwch, hyd yn oed arabedd—ym Meethoven; ni chyfyngodd fiwsig i'r teimlad crefyddol, neu i droeon serch yn unig. Wrth ganu ei brofiad ei hun, fel Williams, Pantycelyn, a sylfaenu ei gelfyddyd ar wir deimlad y galon, gwelodd nad y ffurf a'r moddion oedd oruchaf mewn bywyd. Cymerodd ffurf y sonata, a ffurfiau eraill, oddi wrth Mozart a'i ragflaenwyr, ond gyda threigl amser ni ormesodd un ffurf arno, eithr plygai ef bob un er mwyn cyrraedd ei amcanion. Yn ei unig oratorio (a ganwyd yn Harlech, eleni), ni ddilynodd y traddodiad crefyddol ymhob peth. Er enghraifft, nis dilynodd wrth roi gwaith Crist i denor, ac ar alawon blodeuog, mewn cysylltiad â lleisiau eraill, ambell dro; pes dilynasai, yn lle benthyca arfer operataidd, rhoddasai ran Crist i fass urddasol, ac adrodd—ganu'n unig; a diweddodd ei nawfed symffon gyda chorawd lleisol, Eto, ym 'Mynydd yr Olewydd,' hawdd yw gweled ôl Mozart yn saerniaeth ddiatonaidd syml yr Haleliwia olaf, yn ei ddull o ymdrin â'r themau ffiwgal, hyd yn oed