Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y rhagymadrodd offerynnol iddynt. Er hyn i gyd, rhoes rywbeth cyfriniol, haws i'w deimlo nag i'w ddiffinio, rhyw angerdd dwfn ac agos yn ei gân. Cwyd miwsig Beethoven chwi bob amser, ond nid i dir lle meddyliwch na fedr dyn fyw ynddo. Nid oes ganddo ganeuon poblogaidd fel Erl King' Schubert, neu gorawdau enwog enwog fel 'Teilwng yw'r Oen' Handel. Eto, rhoddai stamp athrylith ar bopeth a wnâi, ac at yr ysbryd beiddgar, pybyr a'i nodweddai bob amser, yr oedd ganddo'r cynildeb a'r gallu i gymhwyso'r dull at y defnydd a fedd y Meistri ymhob math ar gelfyddyd.

Llwyddodd fwy yn y cyfeiriad offerynnol nag yn y cyfeiriad lleisiol, ac ystyrir ei Nawfed Symffon fel un o weithiau godidocaf y ddaear. Perfformiwyd hi, y tro cyntaf, yn Wien, ym Mai, 1824. Bu Beethoven yn gweithio'n hir i'w chyfansoddi, a gwawriodd y syniad o'i gorffen gyda chorawd lleisiol arno mor bell yn ôl â 1793, pan gariai lythyr at chwaer Schiller, lle dywed ei fod yn bwriadu gosod cerdd ei brawd i Lawenydd ar fiwsig. Bu'n petruso'n hir, ac ddiweddar â 1823, a orffennai'r symffon yn y dull arferol ai peidio, ond o'r diwedd y finale lleisiol a orfu, ac felly cymer y symffon beth o nodwedd cantata hefyd. Yn yr allegro dechreuol, rhoddir llais i ddirgelwch bywyd. Gwna hyn trwy adael trydydd y cord allan, a thrwy hyn ni ellir bod yn sicr ai yn y cywair llon ynteu'r lleddf y cân. Yn ei ysgîl, daw cyffro nodedig, yng nghryndod y llinynnau a chynnwrf y mydr, ac o hyn drachefn ceir miwsig i ddis-