Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grifio'r ymdrech, yn antur dyn, rhwng elfen weithredol ac elfen asetig ei bersonoliaeth. Yna ceir scherzo hynod o gyflym, a solo swniog, nodweddiadol i'r drwm; gellir dehongli'r symudiad hwn fel lleferydd i lawenydd dyn, a'i hoffter o'r nwyfiant a'r prysurdeb, a'r ynni sy'n gweddu i ieuenctid. Cymhwysa'r symudiad araf amrywiadau, llawn o dynerwch, ar un o alawon hudolus y cerddor. Ar ôl hyn, ceir dadwrdd ofnadwy fel pe bai pawb, mewn cyfarfod lluosog, yn dechrau siarad ar unwaith â'i gilydd! Ni all sŵn fel hwn ddal yn hir, ac o'r diwedd, rhoddir cerydd iddynt, drwy'r ffidlau mawrion, urddasol, yn ôl dull cadeirydd, mewn adrodd—gân offerynnol, llawn o awdurdod a difrifwch. Ar ôl tawelu ennyd, cyfyd y dadwrdd eilwaith, fel pe bai holl leisiau'r greadigaeth yn galw am rywbeth a'i bodlonai—rhyw ddyhead mor llydan â'r byd i'w cysuro. Ar hynny, geilw'r cadeirydd am ychydig fariau o'r symudiad cyntaf i gyd, ond gwrthodir yr awgrym yn fuan ac yn bendant. Yna cais y scherzo ei gymeradwyo'i hun, ond ni fynn y cyfarfod mohono yntau chwaith. Edrycha'r rhagolygon yn ddu, a chynigia'r symudiad araf, tyner ei hun, dim ond i'w guro i'r llawr ar unwaith. Cais y cadeirydd, wedyn, am rywbeth gwell, hollol newydd, ac ar ôl edrych o'i ddeutu ychydig, tarewir pedwar bar o diwn nas clybuwyd o'r blaen. Yna'n ebrwydd, codir cri 'Dyna hi! Am honyna y buom yn disgwyl! Hai ati!' Nodau syml sydd iddi, yn symud i fyny ac i lawr i'r raddfa, nes o'r diwedd y disgyn, mewn un lle, ac un lle'n unig, i nodyn isel, isel.