Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

PAN ofynnodd Miss L. A. Breese Davies i mi ddethol a golygu cyfrol o ysgrifau ei brawd, cytunais yn llawen. Galwasai T. Gwynn Jones ef yn llenor medrus a gofalus a chanddo ddawn beirniad cyfarwydd â'i bynciau, un oedd yn feistr ar iaith raenus a chlir, yn feddyliwr craff a hynaws'. Yr oedd hyn yn gwbl wir am John Breese Davies, ac oherwydd hynny bu'r gwaith golygu yn hawdd. Eithr nid oherwydd hawsed y gwaith y cytunais. Gwelodd Gwynn Jones yntau fwy na'r llenor ynddo : gŵr bonheddig trwyadl o Gymro, ysgolheigaidd yn yr ystyr uchaf oll i'r term . . . Eiddo'r haelioni a'r ddoethineb sy'n anhepgor pob gwir ddiwylliant, a'r peth drosben hwnnw, personoliaeth syml, rywiog, garadwy.' Am y peth—drosben hwnnw' y cerais i John Breese Davies ac y bodlonais yn ddiolchgar i wneuthur fy rhan fechan i yn y deyrnged hon i'w goffadwriaeth.

Cyfarfum ag ef tros bum mlynedd ar hugain yn ôl ; deuthum i'w adnabod yn 1925 pan ddechreuwyd cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd hyd ei farw. Fe'i ganed yn 1893: mab ydoedd i Thomas Tegwyn Davies, awdur Dinas Mawddwy a'i Hamgylchoedd. Etifeddodd yr enw Breese o ochr ei fam a berthynai i deulu Breesiaid Llanbryn-Mair, teulu a roes, trwy gangen arall, S.R. i Gymru. Yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Nolgellau dioddefodd John Breese Davies anhwyldeb a'i cadwodd yn orweddiog am bum mlynedd a'i adael yn gloff o'i glun. Dywed ei gyfaill,