y Parch. J. Ellis Williams, iddo fwriadu mynd i'r gwasanaeth sifil ond i'w orwedd hir newid cwrs ei fywyd. Yn sicr nid colled i Fawddwy fu'r newid. Treuliodd y pum mlynedd trwy ddarllen yn helaeth a myfyrio'n ddwys, ac yn ystod cyfnod ei afiechyd ymwelodd Syr Owen Edwards ag ef, a'i gymell (fel y gellid disgwyl) i sgrifennu i Cymru. Ufuddhaodd, a dyna ddechrau gyrfa J. Breese Davies fel llenor. Dyma eto un o gymwynasau Owen Edwards i'w genedl. Ac un o draethodau eisteddfodol gorau J. Breese Davies yw ei draethawd ar O. M. Edwards—traethawd rhy faith i'w gynnwys yn y gyfrol hon. Parhaodd i lenydda gan ddatblygu, fel y gwelir yn y gyfrol hon, arddull glir a chynnil. Pan euthum i gynnal dosbarth yn y Dinas yn 1925 ef oedd yr ysgrifennydd a chefais gyfle da i farnu nid yn unig ei ryddiaith bob dydd' ond ei wybodaeth o lenyddiaeth a llenorion. Yr oedd yn eithriadol eang. Anaml y cyfarfum â gwŷr o ddysg prifysgol a wyddai eu pwnc yn debyg iddo. Rhaid ei fod yn wir wedi darllen yn fanwl a myfyrio'n hir mewn conglau diarffordd o'r maes. Gallai drafod yn feistraidd werth llenyddol aml glasur Saesneg digon anhysbys i'r mwyafrif o ddarllenwyr Saesneg. Ac yr oedd wrth gwrs yn gwbl hyddysg yn hanes llenyddiaeth ei wlad ef ei hun.
Daliodd ei ddiddordeb yn y mudiad addysg i bobl mewn oed. Ai'n flynyddol i Goleg Harlech ac i ysgolion haf mewn lleoedd fel Caergrawnt. Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Fachynlleth yn 1937 ef oedd y dewis naturiol i fod yn ysgrifennydd