y Pwyllgor Llenyddiaeth. Yno y cafodd gyfle i sylweddoli un o'i freuddwydion. Daliai ar hyd y blynyddoedd fod mawr angen am roddi urddas ar sgrifennu rhyddiaith Gymraeg ac aeth ati i geisio gwneud a allai tros ryddiaith yn yr Eisteddfod. Yn ystod 1936 gohebodd yn ddyfal â rhai ohonom i sefydlu yn Eisteddfod Machynlleth gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Medal John Breese Davies yw hon ac ofnaf weithiau nad yw hyd yn hyn yn cyflawni'r hyn a fwriadwyd iddi, sef, fel y mynnai ef, fod yn deyrnged i ryddiaith gadarn fyw.
Nid rhaid imi sôn yma am ei gyfraniad ef ei hun i'n llenyddiaeth. Mae'r detholiad a geir o'i ysgrifau yn y gyfrol hon yn dystiolaeth i'w ddawn a'i allu. Sgrifennai i Cymru, Y Geninen, Yr Eurgrawn a'r Cerddor (a llawen gennym gydnabod y cyfnodolion hynny wrth ail-argraffu ei ysgrifau yma). Deil ei ysgrifau yn eu gwerth a'u blas o hyd ac ni chredaf y collant eu rhin.
Eithr nid llenor yn unig mohono. Yr oedd yn gerddor hefyd. Anodd i mi, nad ydwyf yn gerddor, drafod yr ochr gyfoethog hon o'i bersonoliaeth. Cofiaf yn dda amdano lawer tro yn trafod arweddau ar gerddoriaeth Bach pan ddarganfu fy mod innau'n addolwr wrth yr un allor. Yn ei ysgrifau ar destunau cerddorol gwelir yn eglur gefndir eang ei ddiwylliant yn y cyfeiriad hwn. Er hynny, cerddoriaeth Cymru oedd ei bennaf gofal ac fe roes wasanaeth clodwiw i'r Gymdeithas Cerdd Dant. Yn wir, yr oedd hyd ei farw yn olygydd Allwedd y Tannau, cylchgrawn y Gym-