gŵyr y Dinas, bobol bach, yn awr am fara pryn a landri.
Ac nid yw'r ffermwyr fawr gwell na phobl—pennautai. Câr y rheini bopeth y sonnir amdanynt yn Slawer Dydd, ac ychwaneg. Basig slag yn lle tail, barb a netin weiar yn lle clawdd a sietin, a sinc a chortyn coch yn lle brwyn; ac yn y tŷ, syr, madam, a the yn lle Siôn a Siân a photes, ac yn wir, ar dro, fenyn Awstralia a bwyd o dun.
Y mae'r newid hwn yn rhwym o effeithio ar siop y pentre, a'r rheswm ei bod yn fyw, ac y bydd hi byw, yn fy marn i, yw y gall hi ei chyfaddasu ei hun at ofynion newydd. Beth i mi yw gwerthu 'sanau sidan yn lle 'sanau gwlan, trowsys fflanel yn lle trowsys rhip, trieg mewn tun yn lle trieg rhydd, a rhyw dair onglau ceiniog o gaws yn lle cosyn? Diflannodd yr hen grefftwyr am mai delio mewn un nwydd oeddynt ac am na fedrent gystadlu â phris gwdsiach ready made. Nid oes odid i brentis yn y Dinas yn awr; ni thâl i grefftwr ei brentisio, ac ni thâl ei grefft i'r prentis, yn aml, ar ôl iddo fwrw ei brentisiaeth. Nid yw'r siopwr fel y crefftwr, yn debyg o beidio â'i gyfaddasu ei hun at ofynion newydd ei gwsmeriaid. Nid ceidwadwr mohono, ac y mae'n haws iddo newid gyda'r oes. Nid oes ganddo beiriannau drud i'w troi heibio—nid yw'n cynhyrchu nwyddau, nac yn cadw rhai ag ychydig o alw amdanynt—ac nid yw wedi ei glymu ei hun wrth un teip o gwsmer. Cawsai fy nhaid ffit pe deuai'n ôl i'w siop heddiw a gweled yr holl ffaldirals y mae'n rhaid i mi eu cadw—cant a mil