Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bethau na welodd llygad ac na chlywodd clust ac na ddaeth i galon dyn o'r oes o'r blaen. Ond beth yw hynny o bwys? Ni all siopwr o'r oes hon fyw yn esgidiau ei daid, ac y mae'n barod i werthu 'popeth ond gras', a phe gofynnech i rai o'i gwsmeriaid, dywedent nad oes ganddo ddigon o hwnnw iddo ef ei hun heb sôn am neb arall! Gwir, a hanner gwir.

Peth arall sy'n debyg o gadw siop y pentre ar ei thraed yw mai merched yw'r mwyafrif o'r cwsmeriaid, a thra bo merched yn bod ni flinant byth ar siopa a gwario, a thyrru at ei gilydd ynddi. Llawer awr ddifyr a dreuliwyd dan esgus 'moen rîl neu bwys o siwgr. Y mae siop y pentre cystal â phistyll y llan am sgwrs a newyddion, ac yn well lawer na siopau'r trefi mawr, neu'r siopau ar olwynion. Y mae siopwr yn adnabod pawb bron a ddaw i'r siop—y maent yn gyfeillion iddo. Y mae'n fwy sefydlog, fel rheol, na'r gweinidog, neu'r ysgolfeistr, a'i gysylltiad ef, a'i dad o'i flaen, yn llawer agosach â bywyd yr ardal. Daw pawb yn eu tro ato, ac nid cysylltiad pounds, shillings, pence, yn unig sy rhyngddo a'i gwsmeriaid, fel cwmnïau mawr y trefi. Cymer y naill a'r llall ddiddordeb personol ym mywyd ei gilydd.

A hoffech chwi ddod i siop y pentre am dro? Peidiwch â disgwyl ffenestr fawr a dyfais i'ch denu. Dim ond ffenestr tŷ wedi ei helaethu yw, yn aml, a phob math o' drugareddau ynddi. A syml a diaddurn yw'r siop oddi mewn hefyd llawr cerrig neu bren, cadair neu ddwy, a silffoedd cyffredin. Nid yw yn lle mawr nac yn lle prysur, ychwaith, ond ar