(Yn canu:Ned y Dawnsiwr a gwmpodd i'r glas dwr
A'r glasdwr yn boeth, a Ned yn gig noeth).
'Tyden NI ddim gwaeth na lleoedd eraill. 'Rwyt ti'n licio' i werthu o . . . a ni sy'n cadw'r llywodraeth 'ma i fynd, ac edrych y gwaith yden ni'n roi i bobol. Ond paid â deud wrth y wraig acw, achos mae hi eisio imi wneud ar ddwy owns yr wsnos, ac myn cebyst i, mae'n rhaid imi hefyd, tase raid imi gael owns arall i helpu!'
****
'Hylo, Mrs. Jones. Y mae'n dda gen i weld basged o fenyn ac wyau genoch chi; welsoch chi 'rioed gimin sy'n mynd lawr y ffordd goch efo'r fisitors 'ma! Sut y mae Deio Bach erbyn hyn?''O, digon symol.''Ydech chi ddim awydd trio mincen lynger iddo fo?' 'Wel, dowch ag un te.' 'Dafydd â pheswch. . . A chysgodd o'r un brentyn?' 'Wel, be ddisgwyliwch chi efo'r hen ddipio dragwyddol yma. Y mae'i goese fo'n wlyb soc o hyd.' 'Dyna fo, roeddwn i wedi ei warnio fo am gymryd pâr o overalls da gen i. Mi fydde 'nhad yn arfer a deud mai tri bil oedd o'n licio'u gweled—bil pwn fflwr, bil crydd, a bil teiliwr. Cofiwch fi at Dafydd. Digalon ydi o? Pwy feddyliech chi fu yma yn ei du ddoe? Yr hen Mrs. Randall—Sioned Vrongaled erstalwm ac 'roedd hi wedi crimetio'r gŵr, ac wedi rhoi ei lwch o fewn peth-berwi-wyau. Gwarchod pawb, meddwn