i, i be y gneisoch chi hynny? "Wel," medde hithe, "wnath o ddim byd tra'r oedd o byw, ond mi geith o weithio ar ôl marw..."Dedwch chi honna wrth y gŵr 'cw.'
**** 'Hylo, sut yr wyt ti erstalwm, Llew. Aros ti, faint sydd ers pan oedden ni yn yr ysgol efo'n gilydd? Wyt ti'n cofio ni'n tynnu dant Abi? Clymu ede lin wrth y dant a chlymu'r ede wrth y paels. . . ac yn gofyn iddo roi plwc ond dim yn tycio.Wyt ti'n cofio Wil yn tanio'r fatsen? Rwy'n ei weld o'r funud 'ma a'r fflam yn mynd yn nes, nes, nes, nes cyffwrdd trwyn Abi. A dyna blwc i'r dant.''Yr oeddwn innau'n meddwl amdano y dydd o'r blaen, wrth ddarllen englyn Watcyn Wyn:—
Tynnu mawr am awr a mwy—y dant tost!
Dant hir anghredadwy!
Y dant llygad ofnadwy!
Dant hir, yn filltir, neu fwy!
'Ga-i goler gentti?'15½ ynte?Mi ddylet gael coler bytarfflei a thei bo i fod yn y ffasiwn, ar ôl ennill yn Steddfod Meirion.''Sut oet ti'n fy ngweld i'n canu I? Tydw-i ddim yn licio'r solo yn dda iawn. Y mae'n newid gynted ag y byddi'n cael blas arni.''Wel ydi, y mae fel pineapple chunks, fachgen, wedi ei thorri'n ddarnau rhy fân. Nos da i ti.'
**** 'Ti sydd 'na Nedw? Wyt ti ddim wedi mynd i'r