Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwely eto? 'Dei di byth yn ddyn os nad ei di i'r gwely'n gynnar a chodi'n fore. Gwerth dimai o dda-da? Na, toffi. Wel 'does dim am ddim na dim llawer am ddimai. Wnest ti dy sums? Dyma ti broblem 'te. "Pam y mae defaid gwynion yn bwyta mwy na defaid duon ?" O, mi glywaist honna o'r blaen. Wel gâd i mi weld os wyt ti'n barod i'r gwely.

Faint ydi ceiniog a cheiniog a hanner dwy geiniog,
Grot a phum ceiniog a thriswllt? . . .

Dyma ti un na fedri di ddim ei gwneud 'te. Be sy'n anghywir yn hon? Y mae gen i gloc mawr mor hen nes bod cysgod y pindil wedi gwneud twll yn ei gefen . . . Dyna.Ffwr â ti adre i dy wely.'

**** 'Hylo Huw Jones, sut yr ydech chi?''Symol, sut 'rwyt ti?' 'O go lew.''Wyt, mi wranta, 'n ddigon glew, fel 'rhen siopwrs 'ma i gyd. Mae 'rhen riwmatis 'ma arna i, fachgen bach.''Glywsoch chi mo'r stori am Daliesin o Eifion? Dydw i ddim yn cael fy mhoeni, medde fo, gan boen pobol dlodiondiffyg traul, bronceitis, diffyg gwynt, a rhiwmitis; poen pobol fawr—y gowt sy arna i. Ond rydech chi wrth ben eich digon er mai rhiwmitis sydd arnoch chi! 'Hy! Welaist ti 'rioed ffasiwn beth ydi cael dau ben llinyn ynghyd y dyddiau 'ma. Gâd i mi gael y bil. Peth go dda ydi talu'r hen cyn cyrchu'r newydd. Mae arna i eisie trowsys rhip i mi a Tomos. Y mae'r bachgen acw'n mynd trwy bob peth ar ôl cael yr hen fotor beic 'na. 'Rydw i'n deud wrtho fo