—paid a meddwl cimin, da 'ch di am yr hen fotor beic 'na, meddwl fwy am lwdn dafad.' 'Chware teg i Tomos. 'Does dim iws ei glymu o wrth linyn ffedog ei fam o hyd.' 'Chware teg iddo fo wir i ti! Waeth gen i siarad â'm sodlau nag efo'ch dithau. Tyrd, mesur fi. . .Faint fydd ei bris o?''Mi ddyle fod yn ddeunaw a chwech, ond mi cewch chi o am ddeunaw swllt.''Deunaw swllt. Os cei di ddau ar bymtheg mi wnei'n o dda—mae dy gefen di yn ddigon llydan, a 'drycha bris y gwlân. Hwde, dyma iti arian parod am f'un i—triswllt ga i 'nôl o bunt!''Na, 'chymera i monyn nhw ; wyddoch chi mai dau dalu drwg y sydd—talu 'mlaen a dim talu byth.''Wel arnat ti mae'r bai os na chei di dy bres. Gad i mi werth ceiniog o studs—Beth? dim ond un? Mae'r ysgol nos 'na'n dy wneud ti yn fwy o rôg o hyd.''Wel, mi gawsoch chithe ysgol nos, hefyd.'
'Dim ond chwarter, fy machgen i. Cofia di, rhaid i mi iwsio 'mhen efo hynny o ysgol ges i. Nos da i ti.'
****
Daw rhai eraill i siop y pentre am nwydd a sgwrs. Fe rydd cymeriad y siopwr ei ddelw ar y sgwrs yn ogystal â diddordeb y cwsmer. Newyddion personol a geir gyntaf fel rheol; yna adolygu bywyd yr ardal, megis cwrdd llenyddol, cyfarfod pregethu, holi pennod, ysgol nos, neu farn am gân, englyn, neu ddadl. Deuir i ofyn cyngor hefyd. Y mae mwy o sôn am y côr a'r eisteddfod nag am chwaraeon eto, ac nid oes neb yn berwi drosodd efo gwleidyddiaeth; nid yw'r dir-