Tro i Faesglasau
YCHYDIG sy'n cofio haf mor wlyb â'r haf eleni. Y mae'n wir erbyn hyn yn mynd oddi yma bron heb ymweld â ni. Adeg yr Eisteddfod yn Ninbych, yr oedd amryw ffermydd yma heb gael llond car llusg o wair, a phawb yn meddwl, nid am fardd y goron neu fardd y gadair, ond yn llawn pryder am fwyd y gaeaf i'r gwartheg. Ond y mae'n debyg bod haf tebyg iddo wedi bod canys yr wyf yn cofio clywed stori am hen berson ym Mallwyd wedi dod am dro i'r Dinas, ac yno'n siarad â siopwr cwynfanus. 'Wel, wel,' meddai cyn ymadael, 'yn tydi hi'n dda nad ydech chi a fi yn dibynnu ar Ragluniaeth?'
Ond dyma ddiwrnod braf o'r diwedd, ac yr wyf am fynd â chwi i Faesglasau. Y mae pob Cymro a Chymraes, ond odid, yn gynefin â'r enw, heb wybod mai lle ydyw ychydig ffordd o'r Dinas. 'Pa ddinas yw honno?' meddwch, a phan ddywedaf Dinas Mawddwy, efallai na bydd llawer ohonoch fawr callach. Gŵyr pob plentyn ysgol am y Gwylliaid Cochion, y canodd mwy nag un bardd faledi iddynt. Daw llawer o foduron yn agos i'r dre,' fel y gelwir hi gan y trigolion, ar eu ffordd i Ddolgellau, ac â'r dewraf ohonynt drwyddi, ar eu ffordd dros Fwlch y Groes i Lanuwchllyn a'r Bala. Bu'r pentref â llawer o drafnidiaeth ynddo gynt, ac yr oedd 'Ffair-Dinas-yr-haf,' ar yr ail o Fehefin, yn cael ei chysylltu, yn yr hen amser, â ffeiriau Gwrecsam a 'Mwythig fel y tri lle, lle byddai