mwyaf o brynu a gwerthu ar wartheg a cheffylau.' (Clywais fy nhaid yn dweud ei fod yn cofio dros 500 o wartheg yn cael eu pedoli ar gae'r Blue Lion y noson cyn y ffair. Oherwydd eu ffeiriau, yn arbennig y ffair hon a Ffair Glangaeaf, y daeth y Dinas yn lle gweddol enwog). Nid tyfu a wnaeth o gwmpas Llan neu eglwys, fel llawer o bentrefi Cymru, a phan aeth masnach o'r ffordd fawr i'r ffordd haearn darfu pwysigrwydd y 'dre.' Os na ddaw'n ôl? . . .
Os buoch chwi drwy'r Dinas yn nechrau'r haf, y mae'n debyg eich bod yn meddwl mai hwn yw'r llecyn mwyaf prydferth yn y byd. Clywch yr awel adfywiol yn chwarae ar eich wynebau, a mwyn hedd y mynyddoedd ' i'w deimlo ymhob man.
Rhed afon Ddyfi a'i haml aberoedd yn beraidd drwy'r dyffryn, ac o bob tu cyfyd mynyddoedd uchel, serth fel gwarchodlu cadarn oddeutu'r pentref tawel. Ar y llethrau, y mae coed newydd eu plannu, yn rhesi trefnus, a thwmpathau o fanadl, neu rododendron, neu rug, yn ôl y tymor, yn gwenu yng nghanol y glesni. Efallai y cewch weled a chlywed yr hyn a eilw'r bobl yn 'briodas y brain,' oherwydd yn adfeilion yr hen Blas a'r coed o'u deutu, y mae llawer o frain yn nythu. Ond ar wahân i hynny a murmur ysgafn yr afon, tawel yw popeth, megis mewn cwsg, a'i lliwiau oll yn ymdoddi'n hapus i'w gilydd.
Rhwng dau o'r bryniau, Moel Bendin a Moel Dre, yr arwain y ffordd sy'n mynd â ni i Faesglasau. Moel yw Moel Bendin o hyd, a'r tŵr a gododd rhywun a fu yn y Plas ar y gorwel o'r Dinas. Sonia'r bobl am y