Mawr nid fel llys tir nac arall, fel y byddai gynt, ond fel cinio talu rhent ysywaeth! Gofidiaf nad oes neb yn gwybod ymhle y mae y faenoriaeth—y byrllysg, y mesurau, a'r feg fawr, etc.—ar ôl i Syr Edmund Buckley symud i Aberhirnant; bu llawer yn chwilio amdanynt, ond yn ofer.
Trwy lawer canrif, o ddyddiau Bleddyn ap Cynfyn i lawr, cadwodd Mawddwy rywbeth tebyg i annibyniaeth. Ni ddaeth yn rhan o Sir Feirionnydd yn 1284 fel Cymru i'r gorllewin iddi: ni ddaeth ychwaith yn arglwyddiaeth Normanaidd fel Cymru i'r dwyrain ohoni. Arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig, a ffurf maenor oedd ei ffurf-lywodraeth. Ar sail hon, bu ganddi Gyngor Dinesig ei hun, hyd ryw bump neu chwe blynedd yn ôl, pan gydiwyd y plwyf wrth gyngor Dolgellau. Cadwodd ei maer hyd ddechrau'r Cyngor Sir, ond y mae wedi colli'r holl freintiau bob yn un ac un. Awn ymlaen ar y ffordd i Ddolgellau cyn troi i Gwm Maesglasau, ryw filltir ymlaen. Dacw'r Glennyrch y sonnir amdanynt yn y Siarter yn ymyl, a dilynwn y nant i fyny'r Cwm, a'r hen ffordd yn gul a lleidiog. Ceir ychydig o flodau ar y ffordd hon, ac un peth a wnaeth y gwlybaniaeth eleni oedd cadw'r blodau taranau, a phys y llygod, a'r bengaled (mwyn tad), a blodau gwylltion eraill heb agor hyd yr wythnosau hyn, ac yn awr y mae'r griafolen a'i haeron yn araf gochi. Erbyn hyn, y blodau ar y cloddiau a'r stingoedd ydyw gogoniant y llwybrau a'r ffyrdd treddegwm. Ni cheir fawr ohonynt bellach ar ymyl y ffordd fawr.