yn debycach i farn Sosialwyr diweddar nag i ddelfrydau'r rhai cynharaf: nid oedd yn wladgarwr penboeth nac yn gosmopolitan. Tarawyd ef yn wael yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas Gymreig, a bu farw'n hen ŵr, Rhagfyr 17, 1905.
Ar lawer cyfrif yr oedd R. J. Derfel yn blentyn ei oes. Fe'i ganed ar adeg ryfedd yn hanes Prydain. Ni bu cyfnod mwy gorthrymus yn hanes yr ynys hon na'r blynyddoedd 1815 hyd 1848, a pharhaodd gorthrwm yr hen ddosbarth yn hwy yng Nghymru nag yn Lloegr. Ar ôl rhyfel Ffrainc, nid oedd ball ar ormesu'r werin. Yr oedd yr hen ffiwdaliaeth yn darfod; ni fedrai na llyfu na llyncu gweithwyr y diwydiannau newyddion. Nid oedd na brenin na gwladweinydd o blaid y bobl gyffredin; ceisient bopeth i gadw'r hen ddull o fyw rhag dinistr. Yr oedd America wedi ei cholli, ac nid oedd eto le i fasnach ymehangu. Tybiai ambell lafurwr fod yr Arglwydd Dduw Rhagluniaeth y canodd Ann Griffiths amdano wedi ei anghofio. Yr oedd ar fin newynu; deddf y caethiwed oedd Deddf y Tlodion; a bu'n bwrw glaw drwy 1816. Nid oedd iau gwŷr llygad y geiniog yn ysgafnach, nag mor ysgafn ag iau gwŷr llygad y tir. Eto ni feiddiai neb rwgnach, rhag ofn bod rhyw Olifer yn ymyl, neu rai o gethern y fyddin a'r llynges a ddychrynodd Ap Vychan.
Gwellodd pethau'n ara deg. Yn 1824, gwnaethpwyd Undebau Llafur yn gyfreithlon; estynnwyd yr etholfraint o dipyn i beth, a daeth y môr a'r bara'n rhydd; daeth amodau gweithio'n well ar ôl pasio i