Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'n wir nad ydyw ei fedr yn ogyfuwch â'i ddawn bob amser. Nid ydyw'n feistr ar ffurfiau barddonol, ac ni chred yn y gynghanedd. Dengys, er hynny, lawer o fedrusrwydd mydryddol, er nad ydyw ei glust yn ddigon tenau na'i gyffyrddiad yn ddigon tringar i gadw miwsig bob amser yn ei fesurau dactylaidd. Ceir ynddo eiriau llanw, gwallau elfennol fel mor hoen' am'mor hoenus,' odlau anghywir fel canullamu,' a ffurfiau llymrig fel 'bodoldeb a 'mynediant.' Eto, os darllenir ef o'i gwrr, y mae'n rhaid cydnabod, os try, wrth ganu am bethau cyffredin bywyd, ambell dro yn gyffredin ei hun, fod ei arddull yn egnïol ac yn finiog.

Symbyliad telynegol sydd i'w ganeuon y rhan amlaf, ac er na chyfunir y sain a'r syniad yn hyfryd bob amser ganddo, eto y mae ei iaith mor syml, a'i deimlad yn codi mor eglur o'i galon, fel nad anwiw ei ganiadau o'u cymharu â chwyddymadrodd a meddalwch teimlad rhai o'i gyfoeswyr. Yn ei ganeuon byrion, chwim, y mae ei gryfder. Yn ei feirniadaeth Saesneg ryfedd ar Ddygiad Cristionogaeth i Brydain,' dywed Iago Emlyn fod gan Dderfel ddigon o ynni i ysgrifennu barddoniaeth yn ddiddiwedd.' Y mae haen o wirionedd yn hyn, a buasai mwy o wlith awen ar ei ganeuon pe buasai'r bardd yn fwy cynnil ac ymatalgar.

Anodd ydyw darllen ei ddarnau meithion, megis y ddwy bryddest yn Y Bardd Crist'nogol, ond gŵyr yn burion beth yw barddoniaeth. Iaith y dychymyg a'r teimlad, meddai, ydyw barddoniaeth; rhyddiaith