Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw iaith ffeithiau tebyg i ofyniad Iago Emlyn—' A oedd Brân a Phaul yn deall Lladin?' Nid edrych am ffeithiau a wneir mewn barddoniaeth, er na chaeir hwynt allan o'r ffurf hon ar lenyddiaeth. Yn hytrach, ymroi a ddylem i chwilio am rywbeth i gyffroi ac i gynhesu ein calonnau. Eto, er iddo gredu y gellid 'odli'r byd i'w le,' y mae'n hoff iawn o gloi cân â gwers. Rhaid cofio ei fod, nid yn unig yn fardd, ond yn bregethwr, ac er mai camp y bardd, chwedl Rhys J. Huws, ydyw cuddio'r wers, camp y pregethwr ydyw ei dangos.

Fel y gellid disgwyl i un o Landderfel, cân lawer am Natur, ac nid ydyw'n rhyfedd i gerddorion ddotio ar fiwsig naturiol ei 'Wlithyn' a'i 'Seren Unig.' Un ydyw natur a Chymru iddo, a chred gyda Dewi Hafesb, mai Cymraeg Llandderfel ydyw cân yr adar. At wên yr haul, at liwiau'r llwyni, ac at gerddi'r adar y try ei ysbryd clwyfus oddi wrth hacrwch a thrueni'r byd, a gwêl ynddynt hyfrydwch na fedr neb ei ddwyn yn llwyr oddi arno, ac eiliw o'r undeb hael a ddylai ffynnu rhyngom.

Yr un yw'r byd i bawb i fyw,
Yr un yw'r nef, yr un yw Duw,—
Y dyn sydd yn wahanol.

Ni chân fawr am serch yn y dull rhamantus; y mae bywyd yn rhy ddu iddo syllu llawer ar y rhiain a'i gwallt yn ddu fel y nos. Eto nid gŵr oeraidd, damcaniaethol ydyw. Ceir cywirdeb meddwl a