thynerwch ysbryd ganddo, a chryn dipyn o natur gwir fonheddig, hyd yn oed pan fo'n fwyaf rhyddieithiol. Prin y gellir disgwyl barddoniaeth ar destunau fel ewinedd a dannedd glân, codi'n fore, rhai'n ymadael â'r trên, cloc wedi sefyll, clecio'r chwip a gyrru, neu ffyrdd Sir Fôn. Nid ydyw'r rhain namyn hoelion iddo hongian ei ffilosoffi am fywyd arnynt. Ambell dro, yn ddiddadl, y mae ei neges yn amlycach na'i awen, oherwydd ni ellir barddoniaeth o bob awel o deimlad a ehed drosom. Yn eu cydymdeimlad â'r gweithiwr cyffredin, a'u cri am aildrefnu'r byd y saif prif ogoniant ei ganeuon. Wrth geisio achub cam y tlawd, a gobeithio am fyd daw egni a nerth i'w gân, a chyfyd ei lais, yn ddifrif a digrif, yn gywir a dychanol, mewn gobaith ac anobaith, wrth feddwl am y cnafon a lethai'r werin. Y mae cryn ddeheurwydd yn ei watwareg, ac er nad oes un nwyd cyn baroted i ddiffygio â dicter, eto pery ei angerdd cymdeithasol ef yn effro hyd onid aeth i'r man, chwedl Swift, lle na all ffyrnig lid mo rwygo'i galon mwy.' Ym Mrad y Llyfrau Gleision' gwelir ei deimlad cymdeithasol yn egino yn araith Llywelyn, pan eilw am foddion addysg i bawb, ac am barch at ddyn fel dyn. Gwêl beryglon Cymru a'r byd. Gweddïa ar i Dduw gadw'r Cymro'n dlawd 'i garu ei wlad a'i bobl ei hun,' ac anela'r un saethau ag Emrys ap Iwan, er nad â'r un medr, at Dr. Dwli, a Tomosô, yr hanner Cymry. Sieryd yn wrol yn erbyn rhyfel a chydymgais, gartref ac oddi cartref. Gwêl y byd yng nghyffion hen draddodiadau isel, a
Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/54
Gwedd