rhagorol y gallai Cymru eu canu'n amlach nag y gwna—rhydd bwyslais arbennig ar weithredoedd da. Mae'r Cymry,' medd yn rhywle, 'wedi ei llygaddynnu gan Iddewiaeth. Enwau Iddewig sydd ar eu plant ac ar eu capeli. Meddyliau Iddewig sydd yn eu bronnau, ac am bethau Iddewig y siaradant. Iddewiaeth sydd yn eu pulpudau, ac yn llenwi eu cylchgronau—ac nid Iddewiaeth ddiweddar, ond Iddewiaeth ddwy neu dair mil o flynyddoedd yn ôl . . . Y mae hanes, chwedlau, a thraddodiadau Cymru wedi eu halltudio ohoni.'
Ni chynhwysa'r rheitheg hon bob ochr i'r ddadl, ond y mae grym ynddi. Geilw am grefydd ddofn a chatholig, am beidio â chymysgu crefydd a ffurf, am beidio â damnio'r holl fyd oddi allan i'n henwad a'n crefydd ni, am beidio â gwahanu proffes a buchedd. Erbyn hyn, ni ddadleuir cymaint yn erbyn yr hyn a ymladdodd drosto, ac ni warafunir iddo'r clod a roes yn y beddargraff a ganodd iddo'i hun:—
Carodd ei genedl, curiodd i'w gweini;
I gyrraedd ei henaid, gwariodd ei ynni.
Teimlodd yn dost a dadleuodd drosti
Teimlodd a chanodd mewn hedd a chyni:
Ei ebwch a'i waedd, a baich ei weddi
Oedd am ŵr yn iachawdwr, i'w chodi
O lid brad i glod a bri,—a mawredd,
Iawn, a gwirionedd yn goron iddi.
1924