odlau i fod yn od a phert yn lle bod yn newydd a phriodol, ac aberthir naturioldeb er mwyn cywreinrwydd. Hyd yn oed gyda saith odl wahanol, anodd cael odlau â digon o wahaniaeth rhyngddynt yn y ddwy ran. Hawdd bodloni ar odlau cyffredin, megis yn 'Wedi'r Storm' Gwili, a cholli'r elfen annisgwyliadwy sy'n cadw cân ar gerdded.
Nid oes, yn Gymraeg, gymaint o odlau llac ag yng ngwaith rhai o'r beirdd Seisnig, yn arbennig Wordsworth, sy'n arfer y terfyniad y, er enghraifft, i odli â'r sain e a'r sain i, heb ymgais at gysondeb: ni cheir yn ein Sonedau odlau fel swrth—wrth, gwar—ar,—pethau a geid, ambell dro, gan feirdd fel Tudno. Yn wir, dengys ein Sonedau fod mwy o ddewis ar odlau Cymraeg nag a dybiem. Wrth gwrs, ni rydd odl dda iawn digonol am linellau afrosgo, am dor-ymadrodd, neu am syniadau eiddil, ond dylai, er hynny, fod yn gywir ac esmwyth, ac nid yn anodd fel ael—haul, yn un o Sonedau Eifion Wyn. Credaf y gallai llawer ofalu'n well rhag arfer yr un llafariaid a'r un cytseiniaid yn agos at ei gilydd, a thrwy hynny beri merwindod sŵn yn lle mireindod sain, ys dywedai'r Athro Gwynn Jones. Er enghraifft, yn 'Gwerfyl Fychan' yr Athro Gruffydd, ceir pedair i hir, ac u ac y hir yn yr wythawd, ac anhyfryd i mi yw diweddu pob llinell o wythawd 'Plygain' Mr. Williams Parry ag n. Ceir y gwall, yn amlycach, mewn Soned gan Milton, lle diweddir pob llinell â'r sain ld (old, hold, repelled, bold, unfold, spelled, upheld, gold), er, efallai, fod ganddo amcan i'r o hir a geir yn ei Soned i