Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich ysgrif arno—gardd fach, hen lestri te, perthnasau tlodion, taith o Lanfair i Lanfyllin (dyweder), hen esgid, tywyll nos, motor beic, boddi cath, Rabbi Saunderson, neu unrhyw beth dan wyneb haul. Pethau dibwys, yn aml, yw achlysur ysgrif, ac odid nad oes rhywbeth achlysurol yn ei dull. Gellir gweld delw y papur newydd a'r cylchgrawn arnynt—delw frau, breuach na phres. Ys dywedai Keats, ymddengys enw'r awdur yn aml fel pe bai wedi ei dorri mewn dŵr, ond wedyn duach, duach yr â'r inc a ddefnyddiodd! Gwneir pethau personol yn bethau diddorol i bawb, a phethau dibwys yn bethau tragywydd. Sut? Drwy wneuthur geiriau, nid yn gerbydau i'r meddwl gwibiog, ond yn ffiolau i brofiadau dyfnaf dyn. Trosglwyddo profiad, nid cyfrannu gwybodaeth, ydyw amcan ysgrif. Trwy droeon ymadrodd, rhydd inni ddull y dyn—tôn ei lais, a natur ei dymer.

Galwyd sylw arbennig, yng Nghymru, at y ffurf hon, pan gyhoeddodd y Dr. T. H. Parry-Williams ei ysgrifau yn gyfrol fechan, hylaw. Ni welwyd dim yn hollol fel y rhain o'r blaen yn Gymraeg, ac fe'i hysgrifennwyd mewn arddull gain, seml. O'm rhan fy hun, eu harddull a hoffais gyntaf. Y mae'r iaith yn syml heb fod yn simpil, a gorwedd profiad byw o dan y symlrwydd mwyaf. Defnyddir amryfal ffyrdd i ennyn ein diddordeb, a benthycir yn helaeth oddi ar yr iaith lafar o ran hynny, hanes benthyg felly ydyw hanes llenyddiaeth. Llefair am 'ddillad bob dydd' a 'rhagrith bob dydd' fel y defnyddir hwynt gan bobl