sentiment, cymysgedd o ddychymyg plentyn a synnwyr cyffredin hen ŵr.
Un o'r ysgrifau cynnar yw hon, fel K.C.16 a'r pryf genwair, a gellir adnabod y rhain am eu bod yn gweithio mewn cylch bach, ac yn troi a throsi o gwmpas y pwnc. Am ei fotor beic dwyflwydd oed, K.C.16, Y mae fy mhrofiad personol,' meddai'r awdur, ' yn gymhleth ag ef, a'm bywyd i yn rhan o'i fywyd yntau.' Symud—spid—mynd . . . disgrifio'r motor beic a wna, a'i brofiadau ef ei hun ar ei gefn. Ond ni edy ei gyfaill 'er mai nôd (dwy lythyren) rhif yn unig sydd ganddo, ac os bydd yn rhaid i mi ei werthu,' meddai, gwn y teimlaf fel petawn wedi gwerthu cyfaill.' Yn y dosbarth nes atom, ar y llaw arall, try oddi wrth ei bwnc megis yn Adar y to. Y pwnc yn hon yw 'marw ei fam'—' Ond am adar y to yr oeddwn i'n sôn, onid e...?' Yn ei ysgrif ar y tywod, eto, y mae'n sôn am y tywod sydd mewn cocos ac mewn concrit, mewn siwgwr ac mewn sment,' ac yn arbennig mewn peth berwi wyau. Lleda'r cylch wrth iddo fynd ymlaen, gan ddechrau gyda'r unig dywod y gŵyr llanc o'r mynydd amdano, sef hwnnw sy'n dweud yr amser i ferwi ŵy, a mynd ymlaen i ddangos mor ddieithr ac ansicr yw tywod, i fynyddwr, rhagor gro'r afon, neu fwnws mawn, neu ludw coed. Y mae gwerth arwyddluniol ynddi, fel y sydd mewn ysgrifau y gellir eu galw yn ysgrifau dwyran megis Ceiliog Pen-y-Pas. Yn hon, cyferbynnir y ceiliog â'r bachgen rhwng dau blismon. Mewn un ysgrif megis Yr Ias, cysylltir teimladau â hanes, ac mewn un