bob dyn, nodweddion sefydlog, yn amrywio'r nesa peth i ddim, a fedd homo sapiens. Nid ydyw'r nodweddion hyn yn hen, o'u cymharu â ffurfiau eraill ar fywyd, am nad yw homo sapiens yn hen iawn. O ran ffurf, y mae ffurf dyn yr hyn ydyw, i raddau helaeth, er mwyn cyfarfod â gofynion ei ymennydd. Maint a ffurf y pen, sythder ei safiad, ac yn y blaen—er mwyn amddiffyn a chynnal yr ymennydd y maent megis ag y maent. Ond ar wahân i'r nodweddion dynol hyn, ceir nodweddion ein hil hefyd, er bod hilion y ddaear wedi ymgymysgu, blith draphlith, â'i gilydd. Tyrfa ethnyddol ydyw hil, ac nid cymdeithas ysbrydol, fel cenedl, er y cymysgir y ddau air yn aml. Nid oes nodwedd i hil nad ydyw'n amrywio mwy na'r nodweddion a gawsom ar y gris gyntaf megis croen melyn, sych y Sineaid a chroen meddal, du y negro, lliw a natur y gwallt, du a chrych, melyn a sidanaidd, ffurf y llygaid a'r pen, natur y dymer, ac yn y blaen; nodweddion sydd yn ein gwneuthur yn Iddewon neu'n Indiaid, yn Gymry neu'n Ethiopiaid. Ar y ris uchaf, ceir nodweddion gwahanol eto, y nodweddion sydd yn ei gwneuthur yn anodd dwyn dyn oddi ar ei dylwyth, ac yn gwneuthur gwaed yn dewach na dŵr. Ceir cant a mil o amrywiadau ymhlith y dosbarth hwn, oherwydd, hyd yn oed mewn teulu, nid oes dau yn hollol yr un fath â'i gilydd. Ymhellach, er bod patrwm wedi ei weu i'n bywyd, heb i ni ei ddewis, eto geill pob un ei wella neu ei niweidio yn ôl natur ei oriau hamdden a gweithio, a'r defnydd a wna o'r byd o'i gwmpas.