Y mae perthynas plentyn â'i rieni a'i hynafiaid yn rhwym o gynhyrchu tebygrwydd cydrhyngddynt. Dwg y tebyg ei debyg, fel y rhed y tebyg at ei debyg. Sonnir mewn bywydeg am barhâd yr hedyn—ddefnydd —germplasm y Sais. Ni ellir dadansoddi bywyd, mwy nag y gallai Huxley, druan, 'ddarganfod Duw mewn potel.' Ffurfir pob cell o gnewyllyn a phlisgyn, ond er y gellir gwahanu o'r cnewyllyn nodd, a sylweddau eraill a elwir yn linin, cromatin, ac yn y blaen, eto ni ŵyr neb beth yw ei holl elfennau, na'r modd dyrys yr ymuna rhai celloedd yn nerfau, rhai eraill yn esgyrn, rhai yn chwarennau, a rhai eraill yn ewynnau. Eithr heblaw'r celloedd hyn, sydd â swydd arbennig, ceir celloedd eraill, a'u gwaith hwy yw, nid codi'r corff, ond cadw nodweddion cynhenid y teulu. Drwy wneuthur hyn, sicrheir parhâd a galluogir rhieni i fyw yn eu plant. Yn wir, cryf ydyw gafael y teulu ar bob dyn a aned i'r byd, ond nid yw mor gryf nad oes le i bob un ddianc i gyfeiriadau newyddion. Gwelir tuedd, weithiau, i wneuthur peiriant o ddyn—rhyw robot dyrchafedig, chwedl Toller, ond, fel y dywed yr Athro J. Arthur Thomson, 'a self-stoking, self-repairing, self-preserving, self-adjusting, self-increasing, self-reproducing machine can only by an abuse of language be called a machine at all.' Er cymaint yw gorthrwm y gorffennol, eto nid rhywbeth anystwyth hollol yw bywyd, yn arbennig bywyd dyn, a geill ei gyfaddasu ei hun, drwy ymrannu'n wahanol, i gyfarfod ag anghenion newyddion, o gyfnod swyn y bore, drwy gyfnod anesmwyth y deffro, i gyfnod gorwelion pell yr hwyr.