ond nid oes cofnodion cerddorol o gwbl hyd gyfnod diweddar. Cedwid cyfrinach cerdd dant yn fwy clos na chyfrinach ei chwaer iau, cerdd dafod. Ymhellach, ni wyddom am ddim canu tebyg iddo y tu allan i Gymru, ar wahân i berthynas agos ymhlith y Basgiaid. Dywaid Dr. Gwynn Jones, a chytuna Dr. Lloyd Williams, nad oedd dim cyfansoddi geiriau ar gyfer miwsig na miwsig ar gyfer geiriau yn nyddiau Tudur Aled, ond bod canu gyda'r tannau, fel y gwyddom ni amdano, wedi dechrau ei sefydlu ei hun erbyn yr adeg honno. Pair cysylltiad cynnar y cywydd â cherdd dant imi gasglu y geill y dull hwn o ganu, a'i addasrwydd at acenion anwastad y mesurau cynganeddol, fynd yn ôl i ddechrau'r bymthegfed ganrif o leiaf. Edrychir ymlaen at ymchwil pellach i eirfa'r beirdd, ac at y gweddill o drosiadau Mr. Dolmetsch. Gwyddom fod Cân Dafydd Broffwyd yn Llawysgrif Penllyn, ond ni rydd y trosiadau a gyhoeddwyd gan Mr. Dolmetsch fawr o oleuni ar gerdd dant, gan mai agwedd vertical cynghanedd a bwysleisir ynddynt, yn hytrach nag alawon yn cydredeg â'i gilydd.
Y mae'r un mor anodd egluro'i darddiad. Efallai bod gwir yn y traddodiad a geir gan Geiriog mai o fath ar gystadleuaeth rhwng y telynor a'r datgeiniad y cododd; haws iddo ef, yn y ganrif ddiwethaf, gredu hynny na ni, sy'n gweld trai yr ysfa gystadleuol. Efallai mai damwain oedd i gychwyn, fel yr awgryma'r Athro Glyn Davies, yn codi o gais i osod pennill rhy hir ar gainc rhy fer; math ar try—on gerddorol.