Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gywir ar geinciau fel 'Llwyn Onn,' er gorwedd ohonynt yn ddigon mydryddol. Y mae pob curiad o'r gainc, ar ôl taro, yn cymryd un corfan mydryddol, fel rheol, ac ni chaniateir nifer o seibiau na llithro o un curiad i'r llall, na daliad o fwy na churiad byth. Ceir nifer o gasgliadau o geinciau gosod, ond nid oes un casgliad safonol wedi ei gyhoeddi, hawdd i'w gael, ac wedi ei gynganeddu'n fedrus. Enillodd Mr. Haydn Morris ar Gasgliad bychan yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, a byddai cyhoeddi hwnnw, ar ôl ychydig newid arno, yn gaffaeliad mawr i ddatgeiniaid. Gellir dosbarthu'r ceinciau gosod fel y gwna Dewi Mai o Feirion yn bum dosbarth: (1) Ceinciau deublyg byrion o rannau cyfartal, fel 'Codiad yr Hedydd,' neu anghyfartal fel 'Bardd yn ei Awen'; (2) Ceinciau trifflyg byrion, fel 'Diferiad o Gerwyn'; (3) Ceinciau trifflyg hirion, fel 'Llwyn Onn,' neu 'Blodau'r Faenol'; (4) Ceinciau deublyg a phedwar-plyg hirion, fel 'Cainc y Datgeiniaid,' sy'n cymryd tri phennill i'r rownd, a cheinciau dwyran sy'n cymryd, fel rheol, bedwar pennill i'r rownd, fel 'Pen Rhaw,' a 'Llanofer'; (5) Ceinciau pedwarplyg â rhannau anghyfartal, fel 'Pant Corlan yr Wyn' a 'Sweet Richard.' Y mae casgliadau fel y Welsh Harper yn brin erbyn hyn, ond gweddillion stoc yr hen delynorion yw mwyafrif o'r ceinciau gosod, ac eithrio rhai diweddar megis 'Llanofer' (sy'n gant oed eleni) ac ychydig o donau eglwysig a ddefnyddir am fod prinder ceinciau tebyg iddynt, megis 'Eifionydd' sy'n cadw nodweddion