Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau (John Breese Davies).djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Idris Fychan.' Arferid tynnu cwtws i wybod tre datgeiniaid o ganu, ac yr oedd yn rhaid iddynt osod yn eu trefn yn ôl rheolau manwl, neu fynd 'allan o wellt.' Ni wyddai'r datgeiniaid fel rheol pa geinciau a genid ar y delyn, ac yr oedd yn rhaid iddynt gadw ar y mesur a ganodd cychwynnydd y rownd; a'r cyntaf i ganu un tro a fyddai'r olaf y tro wedyn. Y mae gennyf frith gof am y dull, ond ni ddefnyddir ef heddiw, fel y'i deellid gynt. Ceir cyfaddasiad ohono yn Eisteddfod Dinbych, cyfaddasiad haws o dipyn nag un Machynlleth, 1937. Y mae rhesymau da am y diflaniad, er bod llawer o hwyl a swyn yn yr hen ddull. Dull oedd lle cydnabyddid bod terfynau i fesurau barddonol, a phan oedd y datgeiniad yn fardd ei hun. Heddiw, ni chenir ond ar ychydig o'r pedwar mesur ar hugain, sef yr englyn unodl union, y cywydd, yr hir a thoddaid, a'r gwawdodyn; ceir llawer iawn o fesurau newydd i'r Gymraeg, a mesurau ffansïol, yn arbennig ymhlith ein telynegion: nid oes amser i'r gwannaf weiddi a'r trechaf dreisio,' yn rhaglenni'r dydd, a byddai gornest fel un a fu yn Llanelwy, rhyw ganrif yn ôl, am dair-ar-ar-ddeg yn fwrn ar wrandawyr heddiw. Yn fwy na'r cwbl, rhoddir mwy o fri yn awr ar ganu cysylltiol yn hytrach nag ar ribi-di-res o benillion digyswllt o bob man, heb ddim ond eu mesur yn eu clymu ynghyd. Rhoddir mwy o sylw hefyd i'r elfennau sy'n gyffredin i bob canu da, megis tlysni llais, purdeb tôn, amrywiaeth melodi yn y gosodiad, eglurder ynganiad, naturioldeb arddull, etc. Ni roddir gor-bris ar gof da, a methiant ysmala