Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nabod yn ddiwarafun mai i waith yr Eglwys yn eu cysylltu hwy â digwyddiadau hanes y mae'r Efengyl yn ddyledus am y dylanwad a gafodd hi ar ddynion.

Perthyn lled agos i hwn y mae pwnc arall o wahaniaeth rhwng Syr Henry a Christnogion Efengylaidd : nid yw ef yn dygymod dim â'r hyn a alwai'r hen ddiwinyddiaeth yn rhagluniaeth neilltuol. "Rhagluniaeth yn ymyrryd, tybied y mae hynny ryw ysgariaeth sy'n annioddefol i'r ysbryd a ŵyr oddiwrth hiraeth cariad ymroddedig ac angen cyson yr ysbryd hwnnw am Dduw." (t. 222). "Er ei holl gyfeiliornadau fe ddysgodd Deistiaeth un pwnc sy'n wir o hyd, neu o'r lleiaf ei awgrymu: fod rhaid ymddiried y bywyd moesol yn gyfangwbl i'r gweithredydd moesol ; ac os mai er mwyn dysgu bod yn dda y mae dyn yma, neu os moesol yn y pen draw yw ystyr ei fywyd ac amcan ei fyd ef, fel y cymerwyd yn ganiataol, yna rhaid gadael iddo weithio allan yr experiment foesol yn ei ffordd ei hun." (t. 223).

(t. 223). I Syr Henry y mae ymyrraeth weithiau yn golygu peidio ag ymyrraeth o gwbl brydiau eraill. (t. 222). Nid yw hynny ddim yn cario argyhoeddiad i mi. Gallai'r ymyrraeth olygu yn unig ymyrraeth gwahanol. Fe eddyf yr Athro ei hun fod rhyw rannau o'r greadigaeth yn amgenach datguddiad o Dduw na'i gilydd, y greadigaeth foesol, er enghraifft, o'i chyferbynnu â'r greadigaeth faterol. Er bod mater yn ysbrydol hefyd, nid yw cyn amlyced datguddiad o'r ysbrydol ag ydyw byd carictor. Os felly—os oes mwy o Dduw, neu od yw presenoldeb Duw yn amlycach mewn rhai o'i weithredoedd na'i gilydd, paham na allai fod rhyw ddynion, a rhyw amgylchiadau neu brofiadau yn hanes dynion, yn ddatguddiad o Dduw mewn ffordd ac mewn ystyr nad yw'r amgylchiadau i gyd ddim?

Buasai rhai yn ychwanegu esiampl arall, syniad Henry Jones am berson y Gwaredwr. Ond gan mai proses y greadigaeth ydyw Duw Henry Jones, a'i fod