Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwir fod llawenydd ym mherthynas yr Iesu â phechadur, y llawenydd uchaf mewn bod; ond llawenydd yn costio dioddef ydoedd. Y Groes a ddangosai faint a ddioddefai'r Brenin Mawr cyn ildio i bechod. Y mae'r profiadau yr aeth Mab Duw drwyddynt yn y cnawd yn rhywbeth newydd i Dduw—yn rhywbeth gwahanol i arfaethu mynd trwyddynt. Yr oedd yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau o'r blaen; ond yn awr fe brofodd iddo'i hunan ei fod. Y mae gwin y deyrnas yn win newydd i'r Iesu ei hun.

Duw yn cyfranogi o brofiadau dyn.

II. Peth arall y mae'r Groes yn ei olygu ydyw bod Duw wedi dyfod yn gyfrannog o brofiadau dyn. Cyfyd yr anhawster i drin y gainc hon o'r athrawiaeth o le gwahanol i'r fel y bu hi gyda'r gyfran o'r blaen. Yno yr anhawster oedd cael geiriau pwrpasol i ddisgrifio'r tragwyddol wedi dyfod i berthynas ag amser ac wedi ei osod ei hun dan y ddeddf. Yma y mae'r peth sydd i'w ddywedyd yn gymharol hawdd ei egluro, ond yn anodd iawn ei goelio, gan ei fod mor dra gwahanol i'n dull cyffredin ni o feddwl. Y mae'r pwnc yn rhy newydd, neu, os mynnir, yn rhy hen, i fod yn dderbyniol gan feddwl yr oes hon.

I un o lyfrau'r Testament Newydd yr ym yn ddyledus am yr idea—yr Epistol at yr Hebreaid, er ei bod hi'n esboniad, a'r esboniad goreu, ar bethau yr ydys yn eu cymryd yn ganiataol drwy'r Testament Newydd i gyd. Nid oes well prawf mor anodd yw gennym ddygymod â golygiad yr Epistol ar hyn o bwnc, na'r nydd-dro fyddwn ni'n ei roi i'r syniad bob tro y delom ar ei draws. Nid oes dim mwy cyffredin gennym na phregethu o'r Epistol hwn ar gydymdeimlad yr Arglwydd Iesu, a chysylltu hynny â'r profiadau yr aeth ef drwyddynt ar y ddaear. Ond y mae'n pwyslais ni, braidd yn ddieithriad, mewn lle gwahanol i'r