Dyma'r fel y byddaf fi'n deall y drychfeddwl o feichiau yn yr Epistol at yr Hebreaid. "Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn fachnïydd."[1]
Mechnïydd dros y ddyled oedd syniad yr hen bobl; ac yr oedd T. C. Edwards yn ei le yn gwrthod hwnnw fel dehongliad ar fechniaeth yr Epistol hwn. Mechniaeth dros Dduw i ddynion oedd hi yn ol ei syniad ef. Na, mechnïaeth dros ddynion sy'n gorwedd esmwythaf ar gysylltiadau'r gair, ond nid mechnïaeth dros y ddyled chwaith. Yr oedd y ddyled wedi ei thalu; pa eisiau mechnïaeth yn yr ystyr honno? Ond y mae mechnïaeth arall yn bod. Dacw ddau wedi syrthio allan â'i gilydd, ac un mewn llesmair a natur ddrwg wedi taro'r llall. Daeth y pwnc ger bron yr ustusiaid. Ac wedi edrych i mewn iddo barnasant mai gwell fyddai cymryd golwg drugarog ar achos y troseddwr, gan nad oedd dim cŵyn yn ei erbyn o'r blaen. A'r cwbl a wnaed oedd ei rwymo i gadw'r heddwch; ond at hynny yr oedd eisiau meichiafon. Meichiau yn yr ystyr yna ydyw Iesu Grist, meichiau dros y pechadur, y daw rywbryd yn deilwng o'r drugaredd a roed iddo heb ei hennill na'i haeddu ddim. Dyna ystyr Heb. ix. 27—28. "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn, felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth." I ddynion y mae marw'n golygu mynd i'r farn. Barn ydyw'r peth mawr nesaf yn ein hanes ni ar ol marw; ac fe ddaeth yr Iesu mawr dan y ddeddf honno—fe aeth yntau i'r farn. Nid oedd ganddo achos o'i eiddo'i hun i'w drin yno; ond yr oedd ein hachos ni ganddo. Fe aeth i'r farn drosom ni. Trwy farw fe'i trosglwyddodd ei hunan i'r frawdle, fe'i
- ↑ Hebreaid vii. 22.