Prawfddarllenwyd y dudalen hon
44. Synnais lawer wrthyf f' hun,
Pan nad oedd un yn gweled,
Am fod gwen â'i phen mor ffol
A myn'd, ar ol hir wylied,
I'w phriodi â'r fath gnaf,
A hithau'r lanaf lunied.
45. Mi rois fy ngiâr i ori
Ar ben y Frenni Fawr,
A deg o wyau dani,
A deg a ddaeth i lawr;
Dydd Sul mi eis i'r Eglwys,
A'r barcud aeth â nhwy:
Tra'n berchen giâr a chywion
Nid af i'r Eglwys mwy.
Dull Gwynedd:
Mae genyf iar a eistedd
Ar ben y Penmaen Mawr;
Me eis at droed y Wyddfa
I alw honno i lawr:
Me hedodd ac me hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I eithaf tir Iwerddon
"Good morrow, John, how d'ye?"
46. Hiraeth, hiraeth! cilia, cilia,
Paid â phwyso'n rhy drwm arna';
Nesa dipyn at yr erchwyn,
Gad i mi gael cysgu gronyn.