Yn nesaf o breswylyddion y Felin Wynt a gawn ei goffäu yw Tomas Robert, a Nans ei wraig. Yr oeddynt yn hen bobl pan yr adwaenem hwy gyntaf, yn rhywle uwch law tri ugain a deg. Dan gofio, crydd oedd Tomas hefyd, ac ni welsom ef erioed (ond y Sul) heb hen ffedog ledr o'i flaen, gwaith neu beidio. Pysgodyn digon "sychedig," a'i syched yn parhau yn ddidor drwy ei oes, ydoedd. Yr oedd yn rhagori ar lawer o'i gymmydogion, drwy ei fod yn ddarllenwr mawr, a chryn syniad ganddo ar lywod-ddysg, yn gallu gwneyd defnydd o'r newyddiadur Seisoneg yr amser hwnw ar fyd; yr oedd hyny yn rhoddi safle uchel i Tom ym mhlith ei gymmydogion. Hefyd darllenai lawer ar lyfrau duwinyddol, ac yn enwedig y mân lyfrynau dadleuol oedd yn llanw y wlad y cyfnod hwnw, yn cynnwys y ddadl ddiddiwedd a fu rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid. "Uchel Galfin" o ran ei farn oedd Tom; ond y drwg oedd fod y gweithredoedd dipyn ar ol; bratiog iawn oedd y rhai hyny, a chai y gair ei fod yn "Antinomian." Beth bynnag, yr oedd y "llymaid diod" yn brofedigaeth dost iddo. Byddai "Modryb Nans," fel y byddem ni yn ei galw, yn hen wreigan lanwaith, gall, a rhesymol, ac ni fu raid i neb roddi y priodoleddau hyny mewn gweithrediad fel y gorfu arni hi gannoedd o weithiau mewn cyssylltiad â'r "hen wr," fel ei galwai. Hen wraig ddiwyd a hynod o "dda at ei chetyn" ydoedd, ac yr oedd gyda hi lawer o getynau i ofalu am danynt. Byddai yn cadw bob amser ryw fath o fasnachaeth fechan, megys gwneyd a gwerthu pop a diod sinsir; gwneyd hefyd a gwerthu India rock a chisis, yng nghyd â mân gacenau; ac felly yn cael elw y gwneuthurwr a'r gwerthwr, a hyny, gallwn feddwl, oedd tuag at "gadw ty," am y
Tudalen:Ysten Sioned.pdf/111
Gwedd